Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/446

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Misol Dolyddelen, yn y flwyddyn 1827, i ofyn am ganiatad i adeiladu y capel cyntaf erioed a adeiladwyd yn Aberdyfi. Bu raid iddo letya noson ar y ffordd yn ol a blaen; yn Nolgellau wrth fyn'd, ac yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd. Yr oedd y gras o letygarwch yn uchel iawn yn y wlad y pryd hwnw, gan y byddai raid i lawer o bregethwyr a blaenoriaid gael llety noswaith ar eu ffordd i ac o'r Cyfarfod Misol, heblaw y teithio mawr a fyddai i bregethu yn Sabbothol ac wythnosol. Pe buasai yr hen bobl yn fyw i adrodd helyntion y myned a'r dyfod i'r cyfarfodydd crefyddol gynt, dyddorol dros ben i'r oes hon fuasai gwrando yr hanes. Ond y maent hwy oll wedi myned, felly rhaid boddloni ar a feddwn. Angenrhaid oedd i bob pregethwr, ac un blaenor o bob taith, o leiaf, os nad o bob eglwys, roddi eu presenoldeb yn y Cyfartod Misol, oblegid yr cedd galw enwau yn bod y pryd hwnw. Yn y Cyfarfod Misol y rhoddid yr holl gyhoeddiadau am y mis dilynol, ac os na ofelid am fod yn bresenol, faint bynag fyddai pellder y ffordd, boed hi wlaw neu hindda, prysurdeb cynhauaf neu amser holidays, byddai y teithiau yn weigion, a'r pregethwyr heb ddim gwaith y mis hwnw. A phan y digwyddai afiechyd neu amgylchiadau anorfod, arferai y pregethwyr anfon gair trwy lythyr at y Cymedrolwr, i hysbysu y frawdoliaeth trwyddo ef, pa Sabbothau a addawsid, a pha rai fyddent yn weigion yn eu dyddiaduron. Yn y dyddiau gynt yn arbenig, ystyrid cysondeb i ddilyn y Cyfarfodydd Misol o du y llefarwyr, ac o du y diaconiaid, yn arwydd o ddiogelwch eu credo, ac yn brawf o faint eu hawydd i wneuthur daioni. Yr henadur parchus a'r cofiadur rhagorol, Mr. Bleddyn Llwyd, Gyrddinan, Dolyddelen, a ddywed ei fod ef yn bresenol mewn Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd cyn rhaniad y sir, pryd yr oedd siarad ar y mater hwn. Rywbryd yn ystod y cyfarfod, rhoddai John Griffith, Capel Curig, blaenor adnabyddus a dylanwadol yr amser hwnw, gynghorion i bawb, yn bregethwyr a blaenoriaid,