Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/447

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i fod yn ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol, a'r pwysigrwydd o hyny. Ar ei ol, cyfododd yr hynod bregethwr, Owen William, Towyn, ar ei draed, a dywedodd, "Ni waeth i rai o honom heb ddyfod iddynt, nid oes neb yn gofyn pa beth ydym dda wedi i ni ddyfod." Ac aeth yn dipyn o ymdderu rhwng y ddau. O'r diwedd, cyfododd Lewis Jones, y Bala, i fyny i gyfryngu rhyngddynt mewn ysbryd addfwyn a hawddgar, a dywedai am yr angenrheidrwydd i ddilyn y cyfarfodydd, nid yn unig er rhoddi help i gario y gwaith ymlaen, ond hefyd i dderbyn lles a bendith, ac i loewi bob un ei grefydd ei hun, drwy gyffyrddiad â phethau mawr y deyrnas yn nghynulliad y brodyr ynghyd. Ond er ymgasglu ynghyd o eithafion pella'r sir i'r eithafion arall, ychydig iawn fyddai swm y gwaith allanol a wnelid gan y tadau. Ni osodid hwy o dan yr angenrheidrwydd i fyned trwy ond ychydig mewn cymhariaeth o waith amgylchiadol; y cyhoeddiadau, y casgliadau, a hanes yr achos,-dyna swm y gwaith. Yn Nyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala, am y flwyddyn 1816, yr hwn y cyfeiriwyd ato amryw weithiau o'r blaen, ceir y rhaglen ganlynol a ddodid i'r llywydd ar ddechreu y cyfarfod, ac os nad ydym yn camgymeryd, yr un un fyddai y rhaglen trwy y flwyddyn round. Y rhai a ddywedant fod gormod o gasgliadau yn y cynulliadau misol yn y blynyddoedd hyn, a sylwant, ond odid, fod y mater hwn yn ail ar drefnlen y tadau, bedwar ugain mlynedd yn ol:—

GORCHWYL Y CYMEDROLWR YN Y CYFARFOD MISOL...

1. Darllen y cyhoeddiadau.

2. Casgliadau.

3. Sefydlu y Cyfarfod Misol nesaf.

4. Enwau'r Teithiau Sabbothol-a oes gobaith am eu llenwi y mis canlynol.