Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/448

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

5. Galw enwau'r llefarwyr, i wybod pa le y byddont dros y mis.

6. Hanes yr Ysgolion Rhad, a'r rhai Sabbothol.

Yn y flwyddyn 1840 y rhanwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol. Nid oes dim cofnodion i'w cael yn mhellach yn ol na'r flwyddyn hon, yn y pen Dwyreiniol na'r pen Gorllewinol. Dichon eu bod yn llechu yn rhywle, mewn hen gistiau, yn yr hen deuluoedd. Ond methwyd a dyfod o hyd i ddim o honynt, er gwneuthur llawer o ymchwiliad, tros rai blynyddoedd, trwy yr oll o'r sir, ac er gwneuthur ymofynion yn gyhoeddus trwy y newyddiaduron. Y mae hyn yn rhyfedd hefyd, a cholled fawr ydyw fod y cwbl wedi ei golli. Gan fod y cofnodion yn ngholl, nid oes genym ddim o hanes y drafodaeth a arweiniodd i ranu y sir, na gwybodaeth am y rhesymau a ddygid o blaid ac yn erbyn y rhaniad. Ac er nad oes ond haner can mlynedd er pan gymerodd hyn le, anhawdd ydyw dibynu am sicrwydd ar gôf y rhai sydd yn awr yn fyw. Yr oedd y diweddar Mr. W. Mona Williams, Tanygrisiau, wedi ei dderbyn yn swyddog yn y sir flwyddyn cyn y rhaniad. Rhyw dri mis cyn ei farw, ysgrifenodd ef y nodiadau canlynol, "Am y Cyfarfod Misol yn Sir Feirionydd cyn y rhaniad, nid oes genyf fawr iawn o'r hanes. Yr wyf yn cofio dadl frwd yn Nghyfarfod Misol y Bala. Yr oedd Lewis Jones, y Bala, yn dadleu yn gryf dros y rhaniad, a Mr. Humphreys, y Dyffryn, yn llawn mor gryf dros beidio. Yr oedd Mr. Humphreys yn bryderus iawn rhag y buasai yr arweiniad yn dyfod yn fwy uniongyrchol ar ei ysgwyddau ef. Y gweinidogion fyddai yn cymeryd mwyaf o ran yn arweiniad y Cyfarfod Misol y pryd hwnw oeddynt,-y Parchn. Lewis Morris, Robert Griffith, Dolgellau; Daniel Evans, Harlech; Richard Humphreys, Robert Williams, Llanuwchllyn; Richard Jones a Lewis Jones, y Bala; a Dafydd Rolant. Yr oedd Dr.