Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae coffadwriaeth Lowri Williams yn haeddu parch dau- ddyblyg. Y hi fu yn foddion i blanu gwir grefydd yn y parthau hyn gyntaf, a hyny mewn adeg mor foreuol nad oedd dim wedi ei wneuthur yn Sir Feirionydd i oleuo y bobl am eu cyflwr colledig, ond yn y Bala yn unig. Yr oedd gadael ei chartref yn Pandy-Chwilog, a symud i drigianu yn Pandy-y- Ddwyryd, yn ddiau yn brofedigaeth fawr iddi. Ond un o droadau rhyfedd Rhagluniaeth Duw oedd hyn, er bendith ysbrydol a thragwyddol i eneidiau lawer. Yr oedd cuddiad ei chryfder hi yn ei duwioldeb. Yr oedd "wedi gwneyd llwybrau cochion wrth fynych gyrchu at orseddfainc y gras, a chlybuwyd ei llais dan goedydd ac ogofeydd y creigiau. Y mae ar dir Pandy-y-Ddwyryd olion llawer o hen allorau a godwyd ganddi." Ni bu byw ar ol symud i'r sir hon ond 23 o flynyddau. Eto gwelodd lwyddiant mawr ar grefydd cyn i'w haul fachludo. Anturiwn ddatgan ein barn, modd bynag, nas gallasai y cynydd fod fel y dywedir yn Methodistiaeth Cymru, yn "fil o aelodau." Cyrhaeddodd y nifer hwn ar ol ei dydd, mae yn wir, ac y mae y rhif wedi cynyddu erbyn hyn i dros 4000 o aelodau. Bu Lowri Williams farw yn y flwyddyn 1778, yn 74 mlwydd oed. Terfynwn y benod hon trwy wneuthur coffhad am,—

EDWARD ROBERTS, "HEN FICER Y CRAWGALLT."

Yr oedd ef yn un o "deulu yr arch," sef yr "wyth enaid," a gyd-gyfarfyddent yn Mhandy-y-Ddwyryd. Magwyd ef y rhan foreuaf o'i oes yn Wern Bach, ffermdy ar lan afon Eden, neu fel ei gelwir fynychaf, afon Crawgallt, oddeutu tair milldir o bentref Trawsfynydd. Gwehydd ydoedd wrth ei gelfyddyd. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi bod yn crefydda gyda y teulu bychan yr ymunodd â hwynt, dechreuodd yntau ar y gwaith o bregethu. Yn ol pob gwybodaeth a ellir gael, cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1770. Y mae yn deilwng o sylw mai efe oedd y pregethwr cyntaf oll a gyfododd gyda'r