Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd, ac yr oedd yntau wedi dechreu ar y gwaith tua phymtheng mlynedd cyn i'r un pregethwr arall ddechreu. Y mae ei enw i'w weled fel un o dderbynwyr Pregethau y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, y rhai a gyhoeddwyd yn 1772. Un enw yn unig sydd o danysgrifwyr am danynt o'r rhan Orllewinol o Sir Feirionydd, sef, "Edward Roberts, Weaver, Trawsfynydd," yn derbyn 12 o honynt. Yr oedd yn Gristion o'r hen stamp, a pherthynai iddo gymeriad yr hen grefyddwyr—dirodres a didderbyn-wyneb. Diameu iddo fod yn foddion i rybuddio a hyfforddi llawer o'i gymydogion tywyll ac anwybodus. Ond un a ystyrid o dymer ddreng ydoedd, a rhy arafaidd i symud ymlaen mewn achosion o ddiwygiadau.

Dywedir yn Methodistiaeth Cymru,—"Adeiladwyd iddo dŷ ar dir Pandy-y-Ddwyryd, tua'r flwyddyn 1772. Yr oedd yn gweithredu fel diacon a phregethwr ar y ddeadell fechan yn y lle hwnw. Ganwyd a magwyd ef mewn tŷ ar gwr mynydd Crawgallt; ac am hyny galwyd ef gan ei wawdwyr, ar ol iddo ddechreu pregethu, yn 'Hen Ficer Crawgallt.'" Bu yn byw am dymor ar ol hyn yn Tynant y Beddau, gerllaw Ffestiniog (daeth yma yn 1806), a threuliodd ran ddiweddaf ei oes yn Nhrawsfynydd. Bu farw Medi 24ain, 1827, yn 81 oed. Daw ei enw i sylw eto mewn cysylltiad â'r lleoedd uchod.