Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IV.

DECHREUAD YR ACHOS YN PENRHYNDEUDRAETH

CYNWYSIAD.—Y Penrhyn yn dramwyfa i Sir Gaernarfon—Y dull y cludwyd y tân—Y personau a ysgrifenodd yr hanes— Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, yn pregethu yma——Y ceff— ylau yn yr ardd bytatws—Erlid William Evans, Fedw—arian— Hanes Dafydd Sion James—Helyntion adeiladu y capel—Can— lyniadau brawychus yr erlid—Dal aderyn yn fwyd i'r pregethwr— Yr hynod Catherine Griffith—Cyfryngiad gwyrthiol i gael tal at y tro mis—Penderfynu rhoddi yr achos i fyny—Blaenoriaid cyntaf y Penrhyn.

"Yr oedd Brynengan yn orsaf sefydlog gan y Methodistiaid pan oedd Penrhyndeudraeth yn ei fabandod, er fod y Penrhyn yn un o'r lleoedd hynaf yn Ngwynedd."—Methodistiaeth Cymru, II., 149.

 N unol â'r dystiolaeth uchod, ac yn unol â hanesion eraill sydd ar gael, y mae sicrwydd fod Penrhyndeudraeth yn un o'r ardaloedd cyntaf y sefydlwyd achos crefyddol ynddynt, o fewn chwe sir Gogledd Cymru. Yma yr adeiladwyd yr ail gapel yn Sir Feirionydd. Y Bala yn unig oedd wedi ei ragflaenu. Adeiladwyd capel Penrhyndeudraeth yn y flwyddyn 1777. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal lawer o amser yn flaenorol i hyn, ac yr oedd eglwys hefyd wedi ei ffurfio yn y lle yn gynt. Eto, nis gellir nodi yr amser y rhoddwyd cychwyniad ffurfiol i'r achos, gyda dim sicrwydd. Yr ydys yn y benod flaenorol wedi gweled i