Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bregethu ddechreu yn Pandy-y-Ddwyryd o gylch y flwyddyn 1755, a bod y nifer o wyth wedi ymgyfenwi ar enw Crist yn fuan wed'yn, ac fe gymerodd hyn le mewn canlyniad i'r wraig, Lowri Williams, symud yno o Bandy-chwilog, lle yr oedd achos eisoes wedi ei ddechreu. Y mae yn wybyddus fod Methodistiaeth wedi ymwreiddio yn foreu yn Lleyn ac Eifionydd, yn arbenig yn ardaloedd Pwllheli a Brynengan. Bu y Parch. Howell Harries ar daith yn y cymydogaethau hyny yn 1741, a'r Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, yn 1747. Y mae yn naturiol meddwl fod y gŵyr hyn, yn eu ffordd o'r Dehendir i'r parthau yma o Sir Gaernarfon, yn myned trwy Penrhyndeudraeth. Ac y mae yr un mor naturiol casglu iddynt bregethu yn yr ardal, ar eu mynediad neu eu dychweliad, er nad oes dim cofnodiad o hyn wedi ei gadw yn un man. Un peth sydd ddigon hysbys, sef fod y Penrhyn yn dramwyfa rhwng De a Gogledd, a digon tebyg i amryw o'r Deheuwyr, heblaw y ddau ddiwygiwr penaf, fod yn hau yr had da, yn eu ffordd ar draws yr ardal.

Yr hanes cyffredin am y modd yr ymledaenodd crefydd dros Gymru yn amser ein tadau ydoedd, y byddai yr hen grefyddwyr selog, wrth symud o'r naill ardal i'r llall, yn bregethwyr neu heb fod felly, yn cario y gwreichion gyda hwy, a byddai y gwreichion hyny o dan fendith yr Arglwydd, yn enyn ac yn cyneu yn dân mewn cymydogaethau newyddion. Felly y bu pan y symudodd Lowri Williams o Sir Gaernarfon i Bandy-y- Ddwyryd ; ac felly y bu pan yr aeth y wraig, Jane Griffiths, o Garndolbenmaen, yn agos i Frynengan, i gadw ysgol i Ddolgellau. Buont ill dwy yn foddion, yn llaw rhagluniaeth, i gludo y tân o'r naill sir i'r llall. Tra thebyg hefyd ydyw i rai o'r gwreichion cyntaf ddisgyn yn nghymydogaeth y Penrhyn, gan fod cymaint o gyniweirio, yn ol a blaen, trwy y gymydogaeth. Ac yn wir yr ydym yn cael crybwyllion am yr hen wehydd gonest a'r Cristion duwiol, Griffith Siôn, Ynys-y