Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

-Pandy,—yr hwn y ceir ei hanes yn helaethach mewn cysylltiad â Thalsarnau—y byddai yn cario tân y diwygiad gydag ef, pan yn croesi y Traeth Mawr a'r Traeth Bach, wrth gyrchu a danfon edafedd ei gwsmeriaid, nes i'r gwreichion oddiwrtho ef fod yn foddion i oddeithio a chyneu y tân yn eu tai hwythau.

Ond er nad oes genym sicrwydd am yr amser a'r modd y rhoddwyd cychwyniad i'r achos yn Mhenrhyndeudraeth, yn rhagluniaethol, y mae llawer mwy o'r hanes yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei gychwyniad wedi ei gadw, nag a geir yn odid yr un ardal arall yn y sir. Yr oedd yr hynafgwr parchedig Daniel Evans, yn fyw pan y casglwyd yr hanes y tro cyntaf, ac iddo ef yr oedd y Parch. John Hughes yn ddyledus am lawer o'r hysbysiadau a dderbyniodd. Cymerodd gwr arall hefyd ddyddordeb mawr mewn casglu ynghyd y ffeithiau, yr hwn oedd yn dra medrus gyda'i ysgrifell, ac a feddai y fantais ddwbl o fod yn enedigol o'r ardal, yn fab i un o'r crefyddwyr cyntaf, ac wedi bod ei hun, am dymor, yn flaenor llafurus yn eglwys y Penrhyn, sef yr hwn a adnabyddid wedi hyny fel John Davies, Penycei, Porthmadog. Yr oedd y ddau wŷr hyn y rhai cymhwysaf ellid gael i anfon yr hanes i awdwr Methodistiaeth Cymru. Arferwyd pob doethineb a phwyll ar y pryd i gasglu ac i gyfleu y ffeithiau yn yr hanes gyda'r fath gywirdeb nad oes le i amheuaeth yn eu cylch. Gan eu bod mor ddyddorol, ac yn cynwys darluniad mor onest o ysbryd, a llafur, ac ymroddiad yr hen grefyddwyr gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, gwneir defnydd helaeth yn y benod hon o'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi eisoes.

Nid ydyw yr hanes wedi ei roddi gyda'r fath drefn ac eglurder ag a fuasai yn ddymunol; felly nis gellir dweyd ymha le, nac yn nhŷ pwy y cedwid y moddion y troion cyntaf. Gwneid hyn i ddechreu, weithiau allan ar y cyttir, weithiau mewn gweithdai, bryd arall mewn adeiladau a berthynent i'r anifeiliaid. Y mae gwraig o'r enw Catherine Griffith yn dyfod