Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i sylw yn fynych mewn cysylltiad â'r achos yma yn ei fabandod. Gellid meddwl mai hi oedd blaenffrwyth y llu o waredigion a achubwyd yn yr ardal. Bu hi mewn penbleth rai gweithiau i gael lle i'r pregethwyr i roddi eu traed i lawr i bregethu. Y mae hanes am y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, unwaith yn pregethu yn y Penrhyn, pa un ai ar ei daith gyntaf i'r Gogledd, ai taith wedi hyny, nid yw yn wybyddus. Catherine Griffith gafodd y fraint i chwilio am le iddo yntau i draddodi y genadwri i'r bobl. Mae yr hanes yn cael ei adrodd i ddangos fod yr Arglwydd yn dwyn ei waith ymlaen trwy foddion hynod o wael a distadl ynddynt eu hunain:—

"Yr oedd Mr. Rowlands, Llangeitho, un tro i ddyfod heibio. Aeth Catherine at ei meistr tir, Mr. D. Llwyd, Tyddyn Isaf, i ofyn iddo am ganiatad i'r gŵr parchedig gael pregethu mewn math o stabl neu feudy agored, i'r hwn y byddai yr anifeiliaid yn arfer troi i mewn i ochel tes neu ddrycin, neu ynte i orwedd pan y mynent. Yr oedd yr adeilad yma, fel y gellid meddwl, yn llawn tom a thail, a thra anmharod i fod yn dy cyfarfod. Pa fodd bynag, wedi cael caniatad i'w ddefnyddio, ymosododd Catrin ar y gorchwyl caled o'i garthu a'i lanhau; a bu ddiwrnod cyfan ymron yn gwneyd hyn. Daeth y gynulleidfa ynghyd, a'r pregethwr a ddaeth hefyd, ond nid oedd modd sefyll yn y beudy, gan drymed oedd y sawyr; ac ar risiau o geryg oddiallan y pregethodd Mr. Rowlands.

"Erbyn darfod yr odfa, yr oedd gŵr a gwraig y tŷ, sef y Tyddyn Isaf, wedi tyneru graddau tuag at y pregethwr, ac anturiasant ei wahodd i'r tŷ i eistedd. Arweiniwyd ef i'r parlwr, a gadawyd ef enyd wrtho ei hun. Ond fe aeth un o'r plant bychain yno ato, Howel Llwyd wrth ei enw. Cymerodd Mr. Rowlands y bychan ar ei liniau, gan ei anwesu mewn modd caredig iawn. Ond wrth iddo wneyd hyn, digwyddodd ganfod pryf bach yn mhen y plentyn; galwodd deulu y tŷ ato, a chan