Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfeirio at y pryf bach a dywedyd, 'A welwch chwi beth sydd yn ngwallt y bychan?'-gofynodd iddynt edrych ar y pryfyn, trwy y mwyadyr (microscope) oedd ganddo, ac wele ym- ddangosai fel llyfant mawr, a gwallt y plentyn a ymddangosai fel cyrs ar ei ben. Arweiniodd yr amgylchiad bychan hwn i ymddiddan siriol a rhydd, a rhoddwyd i'r pregethwr ronyn o groesaw. Yr oedd rhagfarn y teulu trwy hyn wedi cael ei ysigo, a phan ddaeth Mr. Rowlands yno eilwaith i bregethu, cafodd gadw yr odfa yn y tŷ; ac nid hir y bu Mrs. Llwyd heb ymuno â'r bobl y buasai ychydig amser yn ol yn arswydo dyfod yn agos atynt. Bu y wraig hon fyw yn hir, a bu farw yn hen, ie, yn hen fam yn Israel."—Methodistiaeth Cymru, I. 526.

Cymerodd y digwyddiad hwn le, gellid tybio, yn un o'r pethau cyntaf mewn cysylltiad â'r achos yma; o leiaf, ymddengys iddo gymeryd lle cyn bod un math o eglwys wedi ei ffurfio. Rhoddir ar ddeall yn y dyfyniad uchod, i'r Parch. Daniel Rowlands fod yma yn pregethu fwy nag unwaith. At yr un wraig, sef Catherine Griffith, y cyfeirir yn yr hanes dilynol, yr hwn sydd i'w weled yn yr un gyfrol, tudalen 302,— "Daeth cyhoeddiad dau bregethwr i Benrhyndeudraeth, ryw amser yn nghychwyniad Methodistiaeth yn y wlad, pryd nad oedd ond ychydig a'u derbynient i dŷ. Nid oedd cyfeillion crefydd yn y Penrhyn ar y pryd ond ychydig a thlawd. Yr oedd gwr a gwraig yno, pa fodd bynag, wedi eu dwyn i hoffi yr efengyl, ac yn barod i wneyd yn ewyllysgar bobpeth a allent i'w chroesawu. Ar eu gwaith yn clywed am ddyfodiad y dieithriaid, ymofynasant yn bryderus iawn am borfa i'w ceffylau dros nos. Nid oedd gan y ddeuddyn eu hunain na maes na pherllan, ond gardd a gauasid i mewn ganddynt o'r cyttir, neu o'r comin fel y dywed llawer Cymro; a'r ardd hon ydoedd yn llawn o bytatws, a'r gwlydd ar y pryd yn eu blodau. Ond er cymaint a fu eu hymdrech gydag amaethwyr y gymydogaeth, ac er iddynt addaw y talent yn llawn am borfa