Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r ceffylau, ni allent lwyddo gyda neb i'w cymeryd. Beth oedd i'w wneyd? Ni fynent, er dim, wneuthur cam âg anifeiliaid y gwyr dieithr, y rhai yr edrychent arnynt fel angylion Duw. Penderfynasant, pa fodd bynag, droi y ceffylau i'r ardd, deued a ddelo yn y canlyniad. Erbyn y boreu, yr oeddynt wedi pori y gwlydd hyd at y ddaear; a mawr y chwerthin oedd yn yr ardal am ben ffolineb y gwr a'r wraig, am iddynt roddi eu holl fywyd megis i groesawu y crwydriaid dieithr a ddeuent ar draws y wlad. Ond mawr oedd syndod a llawenydd y ddau grefyddwr pan ddaeth amser codi pytatws, fod yno gnwd llawn cymaint, os nad mwy, nag oedd gan neb yn y fro; a mawr oedd rhyfeddod rhai, a siomedigaeth eraill o'u dirmygwyr, pan ddeallasant na adawyd i'r trueiniaid caredig fod ddim ar eu colled. Daeth yr hanes uchod i law yr ysgrifenydd oddiwrth amrywiol bersonau gwahanol, y rhai a gytunent yn hollol yn mhrif linellau yr amgylchiad."

Nid yn unig yr oedd yn anhawdd cael llety i bregethwyr, a phorfa i'w hanifeiliaid, y pryd hwn, ond ystyrid hi yn fraint i gael tawelwch oddiwrth yr erlidwyr. Y mae yr hanes canlynol, a adroddwyd o enau un o'r hen bregethwyr eu hunain, sef Robert Dafydd o Frynengan, yn ddangosiad fel yr oedd pethau yma cyn bod capel wedi ei adeiladu yn y lle:—

"Crybwyllai Robert Dafydd am dro chwerw o erlid a fu unwaith yn Mhenrhyndeudraeth. William Evans, o'r Fedwarian, oedd yno yn pregethu, a hyny mewn gweithdy cylchwr (cooper). Daeth torf fawr o erlidwyr yno; torasant dyllau yn y tô; ac ymysg y rhai prysuraf o honynt yr oedd dau fab i offeiriad, yn eu crysau, ar ben y tŷ, yn bwrw talpiau mawr o dywyrch ar y bobl; eraill yn curo pob un a ddelai i'r tŷ â gwrysg o goed; cafodd eraill gyrn gwartheg mewn barcdy, a defnyddient y rhai'n yn offer i faeddu y crefydäwyr. Ffaelodd William Evans a phregethu, eto hi a dorodd yn orfoledd ar y trueiniaid rywbryd yn ystod yr odfa, yr hyn, mae'n debyg,