Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/450

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II.

O RANIAD Y SIR YN 1840 HYD Y FLWYDDYN 1890.

CYNWYSIAD.— Y personau gymerant ran yn ngwaith y Cyfarfod Misol— Lewis Morris—Robert Griffith, Dolgellau—Owen William, Tocyn—Daniel Evans—Hugh Jones, Towyn—Richard Humphreys—Edward Morgan— Robert Williams, Aberdyfi—Robert Parry, Ffestiniog—Griffith Williams, Talsarnau—David Davies, Abermaw—Robert Roberts, Dolgellau—Lewis William Richard Roberts—Humphrey Evans—William Jones, Maethlon—David Williams, Talsarnau—Humphrey Williams—Robert Griffith, Bryncrug—Griffith Erans, Aberdyfi—Owen Roberts, Llwyngwril—Owen Roberts, Llanfachreth—Hugh Roberts, Corris—Brodyr eraill o blith y Blaenoriaid, megis Morris Llwyd, Cefngellgwm—William Ellis, Maentwrrog—Humphrey Davies, Corris—Mr. Williams, Ivy House—W. Rees, Towyn—Thomas Jones. Corris—William Mona Williams. Tanygrisiau.

  MAE amryw o wŷr enwog ac anwyl wedi bod yn arwain yn mhethau crefydd yn y rhan Orllewinol o Feirionydd, o'r adeg yr aeth y sir yn ddau Gyfarfod Misol hyd yn awr, y rhai ydynt fel y ser yn eu graddau, ambell i seren yn ddisglaer iawn, ac ambell un arall yn llai disglaer, ac eto yn para i lewyrchu ymhlith y ser disgleiriaf. Y mae hanes y Cyfarfod Misol yn gyd—blethedig â hanes y dynion sydd wedi bod yn fwyaf blaenllaw ynddo. Rhoddwyd eisoes goffhad byr am yr holl swyddogion mewn cysylltiad â'r eglwysi yn eu cartrefi. Oddiwrth y sylwadau sydd yn dilyn, ceir rhyw ychydig o syniad am y gwaith a wnaethant yn y sir, a'r rhan a gymerasant yn nygiad cyffredinol y gwaith ymlaen. Dymunir, ar yr un pryd, i'r darllenydd