Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/451

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofio nad oes yma ond amlinelliad yn unig o'r dynion, ac o'u gwaith. Mae y ffigyrau a welir ar ol enw pob un o'r personau a nodir, yn dangos y blynyddoedd y bu yn aelod o'r Cyfarfod Misol.

Y PARCH. LEWIS MORRIS (A. D. 1791-1855).Efe oedd y cyntaf a ddaeth i sylw o bregethwyr y pen gorllewinol i'r sir, a bu ei enw yn gyhoeddus gyda'r gwaith am amser meithach na'r un pregethwr arall. Perthynai iddo lawer o hynodrwydd; yr oedd yn ddyn mwy o gorffolaeth nag odid neb yn y wlad; yn more ei oes efe fyddai yn arwain yn chwareuon a champau drygionus y wlad; cafodd dröedigaeth hynod wrth ddychwelyd o races ceffylau yn Machynlleth. Ond wedi ei dröedigaeth, daeth yn un o'r rhai blaenaf o ddilynwyr yr Iesu; ac arbenigrwydd yn ei hanes hyd derfyn ei oes faith ydoedd, ei fod yn drwyadl grefyddol. Yr oedd ei hanes boreuol, mewn llawer ystyr, yn debyg i hanes Paul ymysg yr apostolion. Allan o law, ar ol ei droi o'r fyddin ddu, chwedl yntau, ymroddodd i gynghori ei gyd-bechaduriaid. Aeth i Frynygath, Trawsfynydd, at John Ellis, Abermaw, yr hwn oedd yno ar y pryd yn athraw ar un o'r ysgolion rhad cylchynol, ac yno yn y flwyddyn 1790, pan yn 30 oed, y dysgodd ddarllen ei Feibl. Ac ymhen dwy flynedd ar ol ei dröedigaeth, yr oedd yn pregethu yn y sir hon a siroedd eraill. Daeth hefyd yn lled fuan yn bregethwr a chryn lawer o alw am dano. Gallesid meddwl, oddiwrth ei hanes a'i ymddangosiad personol, ei fod yn ddyn perffaith wrol, a dangosodd lawer o wroldeb lawer gwaith; ond byddai ei nerth a'i wroldeb yntau ar amserau yn pallu. "Dywedodd y cyfaill anwyl a pharchus, Mr. Charles, o'r Bala, wrthyf," meddai ef ei hun yn ei hanes, "pan yr oeddwn un tro yn myned at yr esgynlawr i bregethu mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, oddiar ddeall fy mod yn ofnus ac isel fy meddwl, 'Cofiwch na bydd neb yn gwrando arnoch ond pechaduriaid; ac y bydd y gwirionedd a