Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/453

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deffrôdd pawb, a dechreuasant ufuddhau, trwy gyfodi yn ebrwydd y naill ar ol y llall i siarad.

Ond os oedd Lewis Morris yn arfer llawer o awdurdod, awdurdod ddigon di-ddrwg ydoedd. Perthynai i'r hen batriarch fesur mawr o symlrwydd a diniweidrwydd. Adroddir hanesyn tra digrifol am dano mewn cysylltiad â chais Owen William, Towyn, i fyned i fyw i dy capel Maethlon. Flwyddyn yn ol, adroddai y Parch. Dr. O. Thomas, Liverpool, yr hanesyn fel yr oedd wedi ei glywed o enau y Parch. Morris Roberts, gynt o Frynllin. Yr oedd y gŵr hwnw yn llygad-dyst o'r drafodaeth. Mewn Cyfarfod Misol yn Nolgellau (a rhaid fod y cyfarfod hwnw cyn 1830, oblegid aeth Morris Roberts i America oddeutu y pryd hwnw), lle yr oedd y frawdoliaeth o'r holl sir ynghyd, ac yn eu mysg John Roberts, Llangwm, Richard Jones, y Wern, a'r oll o'r prif ddynion, ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd, dywedodd Owen William, Towyn, "Yr ydw' i wedi meddwl myned i fyw i dŷ capel Maethlon." Nid oedd dim cysylltiad rhwng hyn a'r hyn fuasai dan sylw yn flaenorol, ac yr oedd yr holl waith wedi ei orphen. Felly arhosai pawb yn fud, heb wybod beth i'w ddweyd, gan na pherthynai hyn ddim o gwbl i'r materion oeddynt wedi bod gerbron. Yn y distawrwydd, gofynodd Lewis Morris i Owen William, "Ydych chwi wedi meddwl myned yno Owen?" "Ydwyf," oedd yr ateb, "yr ydw' i wedi meddwl myn'd yno." "Wel, dyna ydyw eich bai chwi, Owen William," ebai Lewis Morris, "eich bod yn meddwl pobpeth cyn siarad." Ar hyn, torodd yn chwerthin anferth trwy y cyfarfod, y cyfryw ag yr oedd yn anhawdd cael terfyn arno. Meddyliodd Lewis Morris mai chwerthin yr oeddynt o gymeradwyaeth i'w sylw ef, ac meddai drachefn, "Ië, dyna ydyw bai mawr yr oes yma, fod pawb yn meddwl cyn siarad!"

Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yr hwn oedd ŵr rhadlon a llawn o natur dda, yn feistr hollol ar Lewis