Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/454

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morris. Ymffrostiai yr hen ŵr rywbryd mewn cyfarfod cyhoeddus, fel y gwnai yn fynych, yn ei oedran, a'r hyn oedd wedi ei wneyd gyda'r achos. Rydw i wedi bod yn pregethu i dair oes," meddai, ac atebai Robert Griffith ef, "Yr oeddwn i yn meddwl mai yn yr oes yma yr oeddych chwi yn byw." "Fe fum i yn dioddef erledigaeth," ebai L. M. adeg arall. "Ie," ebai R. G., "dianc i'r Deheudir wnaethoch chwi, onide, Lewis Morris," gan gyfeirio at yr amser y ffödd i Sir Benfro, yn amser erledigaeth fawr 1795. Tua diwedd ei oes, yr oedd golwg wirioneddol batriarchaidd ar yr hen bererin, a pherchid ef gan bawb fel pentewyn amlwg wedi ei achub mewn oes annuwiol, ac fel un o'r tystion cywiraf dros y gwirionedd. Pregethodd lawer trwy yr oll o'r dywysogaeth, a phregethai yn olaf yn y Cyfarfod Misol bob amser, ac yn ei weddi ar y diwedd arferai goffau yr holl destynau, a gofyn am fendith arnynt. Cadwodd ei barchedigaeth a'i ddefnyddioldeb, "o genhedlaeth i genhedlaeth." Yn niwedd ei oes, oherwydd ei lesgedd a'i henaint, pregethai ar ei eistedd yn ei dŷ ardrethol ei hun yn Arthog, a deuai y cymydogion ynghyd i wrando arno. Un o'r cyfarfodydd olaf iddo fod ynddo ydoedd Cyfarfod Misol Dolgellau. Yr oedd wedi anfon at Mr. Williams, yn amlygu dymuniad cryf am gael dyfod, a gwahoddiad caredig wedi ei anfon ato o Ivy House. A boreu y diwrnod cyntaf, wele yr hen dad yn dyfod mewn trol, wedi ei lapio i fyny, a bron cael ei guddio gan wellt. Wedi iddo ddyfod, pryderai teulu Ivy House yn fawr pa fodd y gellid ei gael i'w wely. Yr oedd ystafell yn mhen uchaf y tŷ, ymha un y cysgai pan ar ymweliad â'r dref trwy y blynyddoedd, a gelwir yr ystafell hyd heddyw yn "llofft Lewis Morris." Cofir yn hir am y drafferth a gafwyd i'w gael i'w wely y tro hwn, Mr. Morgan yn dal y ganwyll o'i flaen, a Mr. Humphreys o'r tu ol, a'i freichiau o dan L. M.; a phob cam ar i fyny yr oedd y pwysau yn myned yn drymach, a'r hen dad yn tuchan. O'r