Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/455

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwedd, ebai Mr. Humphreys, "Wel, Lewis, Lewis, y chwi sydd yn tuchan, ond arnaf fi y mae y pwysau." Tua'r amser hwn ysgrifenodd y llythyr sydd yn dilyn at ei frodyr i Gyfarfod Misol y Bwlch, ac un peth yn hynodi y llythyr ydyw, fod. Lewis Morris yn cael ei flwydd yn 91 oed y diwrnod yr ysgrifenid ef. Ymhen pedair blynedd wedi hyn, casglwyd. ef at ei dadau, ac mae ei feddrod wrth gape! Salem, Dolgellau.. Dyma ei eiriau ef ei hun yn ei lythyr,—

Gefnir, Mehefin, 2, 1851.

Anwyl Frodyr,

Yr wyf yn anfon yr ychydig linellau hyn atoch i hysbysu i chwi y buasai yn dda iawn genyf allu dyfod unwaith eto i'ch plith, a chael mwynhau eich cymdeithas; ond y mae yn debyg y rhaid i mi ffarwelio am hyny mwyach oherwydd fy henaint a'm gwaeledd, er mor hyfryd fuasai genyf allu dyfod. Fy nymuniad a'm gweddi yw am i'r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnoch a thywallt ei Ysbryd yn helaeth ar eich cynulliadau fel y gogonedder yr Arglwydd Iesu Grist. Efe yw Haul y cyfiawnder a gogoniant ei holl waith.—Yr wyf yn methu a dysgu bod yn foddlon, ond yr wyf yn meddwl mai dyna'r peth sydd yn fy anfoddloni fwyaf ydyw fy mod yn methu myned i'r addoliad ac i blith fy mrodyr, lle y cefais lawer o bleser a diddanwch lawer gwaith, ac y mae cofio hyny yn codi hiraeth arnaf am danynt eto. Ond y mae yn dda genyf wedi methu myned i dŷ Dduw, y gallaf inau ddywedyd fel ag y dywedodd y Parch. Philip Henry, y caf finau fyned at Dduw y tŷ o'r fan lle yr wyf.—Yr wyf yn weddol iach heb na chur na gwaew yn gyffredin, ac yn cyfrif hyn yn drugaredd fawr.Yr wyf yn gallu darllen y Beibl yn bur fynych, a gallaf ddywedyd ei fod yntau yn fy narllen inau, ac ynddo y mae fy hyfrydwch penaf. Yr wyf yn gweddio llawer am i'r Ysbryd Glan fy sancteiddio yn gwbl oll—yn yr olwg ar y colledig yr