Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/457

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

haner can' mlynedd ymron yn hollol rad, "o leiaf heb dderbyn digon i gadw ei geffyl." Yr oedd yn fwy cysurus ei amgylchiadau bydol na llawer o'i frodyr, a chymerai yr eglwysi fantais oddiwrth hyny i fod yn brin yn eu cydnabyddiaeth iddo. Dywed y Parch John Hughes am dano,-"Yr oedd Robert Griffith yn rhydd iawn oddiwrth bob rhodres a chymendod; eto yr oedd yn ŵr hardd ei berson, trwsiadus ei wisg, a boneddigaidd ei ymddygiad. Nid oedd yn dangos parodrwydd gormodol i siarad, ond pan y siaradai dangosai fod ganddo feddwl; byddai ei atebion yn fynych yn fyrion ac i'r pwrpas. Mewn gair, nid yn fynych y ceid pregethwr ymysg y Methodistiaid yn meddu mwy o gymhwysderau a llai o frychau. Gŵr da, ac yn haeddu parch dau-ddyblyg." Ceir ychwaneg: o hanes am dano, heblaw y bywgraffiad y cyfeiriwyd ato, yn. Meth. Cym., I., 591, ac yn y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn, tudal. 392.

Y PARCH. OWEN WILLIAM, TOWYN. (A. D. 1811—1859).—Yn Mryncrug y ganwyd ef, ac y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac mewn cysylltiad â'r eglwys yno y ceir ei hanes. Hynodrwydd Owen William yn fwy na'i wasanaethgarwch i'r achos a barodd i'w enw fod mor adnabyddus; ond yr oedd yr hynodrwydd hwnw mor amrywiol, ac yn parhau dros gymaint o amser, fel na byddai hanes Cyfarfodydd Misol ei amseroedd. ddim yn gyflawn heb grybwylliad am dano. Mae yn wir fod ynddo lawer o allu; cydnabyddid ef gan ei gydoeswyr fel dyn meddylgar. Cyfansoddodd a chyhoeddodd amryw lyfrau ar hanesiaeth, proffwydoliaeth, a duwinyddiaeth. Y tri hyn oedd y thai pwysicaf: 1. "Golwg ar gyflwr dyn, (1) Yn ei greadigaeth; (2) Yn ei gwymp trwy Adda; (3) Yn ei gyfodiad trwy Grist." 2. "Eiriolaeth Iesu Grist." 3. "Traethawd ar Waed Crist." Y rhai hyn a mân lyfrau eraill a gyfansoddodd, a ddangosant ei fod yn berchen meddwl llawer mwy galluog na'r cyffredin. Byddai hefyd yn ei bregethau yn treiddio i ddyfn-