Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/458

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion bethau yr iachawdwriaeth, ac ar rai adegau o'i oes bu yn bregethwr tra phoblogaidd. Cyfodai ei boblogrwydd yn hollol o feiddgarwch ei feddyliau, a'i allu i drin pynciau; oblegid ni feddai lais na pheirianau llafar hyfryd i'r gwrandawyr. Siaradai o waelod ei wddf, ac ymestynai ymlaen wrth ddweyd rhywbeth o bwys, fel pe buasai yn rhoddi hwth i'r ymadrodd oddiwrtho. Byddai yn teithio llawer i bregethu i siroedd y Deheudir, ac yn afreolaidd hefyd, oblegid ni byddai ei gyfeillion gartref yn aml yn gwybod dim o'i hanes. Yn Nghyfarfod Misol Towyn, Tachwedd, 1844, gwnaeth y brodyr y sylw canlynol am dano, "Yn y cyfarfod hwn, barnwyd mai yn Sir Aberteifi neu Sir Benfro y dylai y brawd Owen William fod yn aelod o'r Cyfarfod Misol, oherwydd ei ddieithrwch i ni, ac anfonwyd llythyr oddiwrth y Cyfarfod Misol at Mr. Edward Jones, Aberystwyth, ynghylch y peth, a rhoddwyd y brawd uchod i'w ofal."

Helbulus fu ei oes gydag amgylchiadau y bywyd hwn. Ond efe ei hun, oherwydd aflerwch ac annoethineb, a dynai yr helbul arno ei hun. Yr oedd rhyw duedd anesboniadwy ynddo i gloddio i'r ddaear, i chwilio am fŵn a meteloedd. Cynyddodd yr ysfa hon gymaint, nes y daeth yn ail natur ynddo; cariai lympiau o lô, a darnau o fŵn yn ei bocedau, a danghosai hwy yn nhai y capelau, a pherswadiai rai pobl i roi benthyg arian iddo i gloddio am danynt, ac i gymeryd shares mewn anturiaethau nad oedd un gobaith iddynt dalu. Yn y dull hwn, tynai ddyledion trymion arno ei hun. Dygwyd ei achos laweroedd a llaweroedd o weithiau gerbron y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa, oblegid ei ddyledion. Ataliwyd ef o bregethu, a gwnaeth ei gyfeillion, mewn gwahanol siroedd, lawer o ymdrech i gasglu arian i'w helpu i dalu ei ddyledion. Y mae llyfr y Cyfarfod Misol wedi ei fritho, dros lawer o flynyddoedd, a rhyw grybwylliad neu gilydd ar ei achos yn y cysylltiadau hyn. Yr oedd ei achos gerbron yn Nghyfarfod