Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/459

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Misol Corris, i'r diben o'i adferu i bregethu, am y tro olaf, fel yr hysbysir. Rhoddai hwn a'r llall gynghorion iddo, a dywedid yn lled ddifrif am iddo beidio dilyn yr un llwybrau mwyach. Mr. Humphreys oedd yr olaf i siarad, yr hwn a ddywedai: "Cofiwch chwi, Owen, mai nid eisiau eich gyru chwi i'r ddaear sydd arnom ni, ond eisiau eich cadw chwi allan o'r ddaear." "Wir, Mr. Humphreys, bach," ebe yntau, "yr ydwyf fi yn cael llawer o anwiredd yn amal; pan wel rhywun fi a chaib a rhaw ar fy ysgwydd, dywedant yn union fy mod yn myn'd i chwilio am fŵn." "Ho," atebai Mr. Humphreys, "mi fyddaf inau yn cario caib a rhaw ar fy ysgwydd yn aml tua'r Dyffryn acw, ond chlywais i neb erioed yn dweyd fy mod i yn myn'd i chwilio am fwn." Parhaodd Owen William, modd bynag, i lynu wrth yr achos, ac i bregethu hyd ddiwedd ei oes.

Y PARCH. DANIEL EVANS (A. D. 1814—1868). —Gwr anwyl iawn oedd Daniel Evans, tra defnyddiol yn ei ddydd, ac yn llenwi lle pwysig yn mysg ei frodyr. Dechreuodd ei yrfa fel ysgolfeistr o dan arolygiaeth Mr. Charles, a diameu i'r gŵr da hwnw osod cryn lawer o'i ddelw arno. Bu cadw ysgol yn nechreu ei oes yn sylfaen i'w ddefnyddioldeb. Gweithiodd lawer yn bur llwyddianus gyda'r Ysgol Sabbothol. Rhagorai ar lawer i dynu plant ac ieuenctyd ymlaen yn y cyfarfodydd eglwysig; elai atynt, a gofynai gwestiynau bach iddynt i ddechreu, yna elai at gwestiynau mwy wedi hyny, nes gwneyd y plant yn fwy nag oeddynt. Cafwyd mwyneidd-dra doethineb ynddo ef i raddau helaethach nag odid neb a fu o'i flaen nac ar ei ol. Dilynodd yr achos yn ei holl gysylltiadau gyda ffyddlondeb mawr, a bu ei ysgwyddau yn dyn dan yr arch pan nad oedd nifer y gweinidogion ordeiniedig yn Ngorllewin Meirionydd ond bychan. Prawf fod ei frodyr yn edrych arno fel gwr o farn ydyw y lle a'r ymddiried a roddent ynddo. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y chwe' blynedd cyntaf ar ol rhaniad y sir yn 1840.