Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/460

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel pregethwr, ni ystyrid ef yn fawr, ac ar un cyfrif ni honai yntau ei hun unrhyw fawredd. Eto yr oedd yn gymeradwy iawn gan y saint. Perthynai rhyw swyn i'w lais nas gellir yn hawdd roddi cyfrif am dano. Byddai ei don fechan leddf yn gwneyd i'r gwrandawyr deimlo ei bod yn dyfod o fynwes gŵr oedd wedi ei heddychu â Duw. Byddai yn arferiad ganddo yn wastad ar ddiwedd bron bob paragraff yn ei bregeth wneuthur y sylw,-"rhyw bethau plaen fel ene fydd gen i." Ceir engraifft o'i ddull hamddenol o bregethu, yn ei bregeth ar y geiriau, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi." "Y mae rhai," meddai, "yn ymrwystro gydag anhawsderau crefydd, yn digio am na fedrant ddeall ei phethau mawr hi, ac felly ni fynant ddim o'r pethau hawdd sy'n perthyn iddi. Yr un fath ag y gwelwch chwi ambell un yn ceisio myned trwy y traeth yna i'r ochr draw. Mae yna ryd hwylus, pwrpasol i fyned trwodd: ond y mae yna lynau a phyllau peryglus hefyd. Mae ambell un wedi dyfod at yr afon yn dychrynu, a digaloni, ac yn troi yn ei ol, pe buasai ond myned ychydig bach o latheni yn mlaen, fe ddaethai at y rhyd. Felly y mae llawer yn ymrwystro gydag etholedigaeth, a chyfiawnhad, a sancteiddhad. Ond enaid anwyl, dyma i ti ryd sych yn ymyl dy draed i fyned trwyddo, cred yn yr Arglwydd Iesu Grist."

"Un rhinwedd neillduol yn Daniel Evans fel pregethwr," ebe y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, "ac feallai mai hwnw oedd y gwerthfawrocaf gan lawer. Ni byddai un amser yn faith. Nis gwyddom ond am ddau beth ag y mae y lliaws yn caru cael mesur byr o honynt, sef milldir fèr, a phregeth fèr; a byddent yn cael pregeth fèr ganddo ef bob amser."

Nid oes gan yr ysgrifenydd ddim côf am dano yn cymeryd rhan yn ngwaith y Cyfarfod Misol ond unwaith, sef yn llywyddu yn Llanelltyd. Eisteddai ar ol myned i fewn ar eisteddle yn ochr y capel. Ar ol myned trwy y gwasanaeth