Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/461

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dechreuol, cynygiodd rhyw frawd fod i Daniel Evans lywyddu. Aeth yntau ymlaen yn arafaidd i'r sêt fawr, a'r geiriau cyntaf a ddywedodd yn ei ddull tawel, gyda'i ben crynedig, a'i aceniad addfwyn oeddynt, "Yr ydych wedi fy ngosod i yn y lle hwn, nid am fod ynwyf ddim cymhwysder, ond oblegid fod fy mhen i yn wyn." Prawf oedd y dywediad ei fod yn cyfrif ei frodyr yn well nag ef ei hun. Ni adawodd yr un o bregethwyr Sir Feirionydd goffadwriaeth mwy hawddgar ar ei ol na Daniel Evans.

Y PARCH. HUGH JONES, TOWYN. (A.D. 1814—1873)—Pan ddechreuodd y to hynaf o weinidogion sydd yn awr ar y maes ar eu gwaith, yr oedd dyddiau Hugh Jones yn tynu at y terfyn. Arosai ef y pryd hwnw, fel deilen ysgwydedig yn Hydref, heb gwbl syrthio oddiwrth y pren. Yr oedd yr olwg arno yn barchedig a phatriarchaidd. Dilynai y Cyfarfodydd Misol wrth ei ffon, a dechreuai yr odfeuon trwy adrodd Salmau a hymnau o'i gof, gan fod ei olwg ymron wedi llwyr ballu. Yn wir, byddai yr olwg arno yn foneddigaidd ac urddasol trwy ei oes. Bu yn cario ymlaen fasnach eang am ran o'i fywyd, ac ni welwyd yr un cymeriad cywirach a gonestach erioed yn rhodio'r ddaear. Pregethwr o ddoniau bychain ydoedd, ond nid oedd yn ail i neb am ei ffyddlondeb, a thrwy hyny enillodd gymeradwyaeth gan ei Arglwydd, a pharch gan ddynion. Symlrwydd a diniweidrwydd oeddynt nodau amlwg yn ei gymeriad. Pregethodd lawer ar y bregeth, Cadw y Sabbath.' Pregethai hi unwaith yn Nolgellau ar nos Lun, sef ar y 30ain o Ragfyr, 1839. Yr oedd yn eistedd yn ymyl eu gilydd, mewn rhan o'r capel, y noswaith hono, ddau bregethwr ieuainc, y Parchn. Roger Edwards, D.D., a John Williams, wedi hyny o Waukesha, America. Er mai nos Lun ydoedd, rhoddodd y pregethwr yr hen benill dyddorol allan i'w ganu ar ddiwedd yr odfa,-

"Melus yw dydd y Sabbath llon."