Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/463

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS (1819—1863).-Yr ydym yn awr wedi dyfod at un o'r tywysogion, ac un a gaiff ei ystyried bob amser fel gŵr anrhydeddus ymysg lliaws ei frodyr. Y mae pob peth yn hanes Mr. Humphreys yn ei osod yn naturiol uwchlaw y cyffredin. Cyfarfyddir â'i sylwadau beunydd, mewn gwahanol gysylltiadau, yn y tudalenau hyn, y rhai a ddangosant, pe na buasai genym ddim gwybodaeth ychwanegol am dano, ei fod yn sefyll mewn uwch lle na neb arall. Gwir a ddywedodd y Parch. Dr. Edwards wrtho, "Bydd llawer o'ch dywediadau mewn côf, fel diarebion ymysg y Cymry am oesoedd." Felly yr ydym yn eu cael, yn yr holl gylchoedd cymdeithasol a chyhoeddus y bu yn troi ynddynt. Wedi bod yn pregethu am dair blynedd ar ddeg, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1833, y flwyddyn y bu farw y Parch. Richard Jones, y Wern, ac ar ol colli y gŵr enwog hwnw, arno ef y disgynodd yr arweiniad yn Ngorllewin Meirionydd. Yr oedd yr Arglwydd yn amlwg, yn yr amgylchiad hwn, yn gosod y naill beth ar gyfer y llall; yn cymeryd un gweinidog enwog ymaith, ac yn gosod un arall yn ei le. Bu y ddau ben i'r sir yn un, mae'n wir, dros rai blynyddau wedi hyn, ac yr oedd rhai dynion blaenllaw eto yn aros yn y pen arall, a chyd-weithiai Mr. Humphreys yn y modd hapusaf gyda hwy. Yr oedd wedi tyfu yn raddol i gymeryd y lle a barotoisai Rhagluniaeth iddo, ac erbyn yr amser y rhanwyd y sir yr oedd wedi dyfod lawer mwy i'r golwg nag y buasai cyn ei ordeinio. Fel hyn y dywed ei fywgraffydd am dano: "Feallai nad ellid ei ystyried ef yn ddiwygiwr mawr, can belled ag y mae dwyn allan gynlluniau newyddion yn perthyn i ddiwygiwr; nid oedd ganddo flas ar wneuthur rheolau a deddfau newyddion. Braidd na thybiwn mai goruchwyliaeth debyg i oruchwyliaeth y Barnwyr a fuasai yn fwyaf cydweddol ag ansawdd ei feddwl ef-eistedd mewn barn ymhob achos fel y digwyddai. Byddai yn arfer dweyd