Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/464

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod llawer yn gwneyd deddfau o bwrpas i'w tori. Ond os nad oedd yn ddiwygiwr mawr, yr oedd yn weithiwr heb ei ail, ac yn gwir ofalu am bob peth yr achos gartref a thrwy y sir; a byddai yn un o'r rhai blaenaf i gefnogi pob ysgogiad a farnai efe a thuedd ynddo i lesoli y 'deyrnas nad yw o'r byd hwn.'"

Rhan helaeth o'i waith gyda'r achos allanol, y tuallan i'w gartref, ydoedd mewn adeiladu ac adgyweirio capelau. Gelwid am ei wasanaeth, trwy y sir, i gynllunio capelau, ac efe fyddai yn eu gosod i'r gweithwyr, ac yn arolygu y gwaith nes y gorphenid hwy. Ymunai hefyd â'r gweithwyr i weithio â'i ddwylaw, gan ei fod mor hyddysg mewn saerniaeth coed a maen. Gwelwyd ef, wedi cael benthyg dillad gwaith, yn adgyweirio to capel Llanuwchllyn, ar fore dydd Llun, cyn cychwyn adref o'i daith. Gweithiai a'i ddwylaw yn ngwneuthuriad amryw gapelau, a phregethai ynddynt ar eu hagoriad. Heblaw gofalu am amgylchiadau allanol yr achos, rhodiai fel athraw ac athronydd ymysg ei frodyr. Rhoddai ei ddeall cryf, ei synwyr cyffredin anghyffredin, a'i ddywediadau pert a pharod, y fantais oreu iddo i fod yn arweinydd hyd yn nod ymysg doethion, ac o dan y cwbl yr oedd ynddo ddynoliaeth o'r fath ardderchocaf. Ganwyd ef yn Feirionwr, a bu fyw yn y sir ar hyd ei oes, a deallai ei hamgylchiadau a'i phobl yn well na phawb. Er iddo deithio llawer, yn ol arferiad ei oes, eto gwasanaethodd ef ei sir ei hun yn fwy na'r rhan liosocaf o'r brodyr oedd ar y maes yr un pryd ag ef. Efe a benodid bob amser i wastadhau amgylchiadau dyrus mewn eglwysi, ac fel sylwedydd craff, a barnwr mawr ei wybodaeth, efe a'u penderfynai os gwnai neb. Cariai gydag ef, hefyd, fel y Meistr mawr ei hun, olew i dawelu y dyfroedd pan y cyfodai yn ystormydd. Taflai ei ddylanwad o blaid pob symudiad gwladol a chrefyddol-rhyddfrydiaeth, dirwest, ac arolygiaeth yr eglwysi. Mewn gair, yr oedd yn allu mawr yn Nghyfarfodydd Misol y sir. Byddai mor hamddenol a chartrefol gyda'r holl frawdoliaeth yn y cyn-