Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/465

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adleddau, ag yr arferai fod ar yr aelwyd gartref. Ni chafodd yr un o wledydd Cymru arweinydd i gario gwaith yr eglwysi ymlaen mor ddidrwst a diberygl.

Yn ychwanegol at y pethau a nodwyd, yr oedd Mr. Humphreys yn ŵr crefyddol iawn. Y mae cynifer o'i ddywediadau digrifol wedi cael eu hadrodd eisoes mewn gwahanol gysylltiadau yn yr hanes hwn, fel na raid eu crybwyll yma. Ond fe ganfydda y darllenydd fod y rhai hyny oll yn llawn o synwyr ac adeiladaeth. Cyfunwyd y difyrus a'r adeiladol ynddo ef i raddau helaethach yn ddiameu na neb arall o bregethwyr y sir. Yr oedd yn athronydd Cristionogol, a'i ysbryd yn efengylaidd. Deuai dyfnder ei grefydd i'r golwg yn ei fawr barchedigaeth i Dduw. Yn ei weddiau hynod rhedai ei feddyliau a'i ddeisyfiadau at yr orsedd gyda "gwylder a pharchedig ofn," a mynych y clywodd ei wrandawyr ef yn terfynu gyda dymuniad taer am i'r Duw mawr hwn fod yn Dduw iddynt byth. Cyrhaeddai ei ddylanwad ymhell ac yn agos-ymhlith ei gymydogion gartref, a chyda goreuwyr y Cyfundeb yn y cylchoedd uwchaf; pan gyfodai dyryswch yn y Cymdeithasfaoedd Chwarterol, y lle yr edrychid iddo am help i'w ddad-ddyrysu ydoedd at y doeth wr o'r Dyffryn. Ond ymataliwn rhag ymhelaethu, gan fod ei hanes i'w gael yn gyflawn yn ei gofiant.

Y PARCH. EDWARD MORGAN (1841—1871).—Ymhen tua blwyddyn wedi i Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ymffurfio yn sefydliad arno ei hun ar wahan i'r pen arall, y dechreuodd Mr. Morgan bregethu. Y mae hanes y naill a'r llall felly am y deng mlynedd ar hugain dilynol yn cydredeg. Daeth ef allan ar unwaith, fel y mae yn hysbys, yn bregethwr galluog a phoblogaidd. Nid hir y bu-dim ond yr ychydig flynyddoedd a gymerodd i berffeithio ei addysg-cyn iddo ddechreu gweithio yn egniol a phenderfynol ymhob cylch. Pregethai, hyd yn nod cyn gorphen cwrs ei addysg, gyda'r fath amlygrwydd ac effeithiolrwydd, fel y daeth yn ebrwydd i