Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/466

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gael ei gyfrif yn un o brif bregethwyr y Cyfundeb. Ni wnaeth neb le iddo, ac nid oedd eisiau ychwaith. Dywedodd ef ei hun noson ei sefydliad yn weinidog yn Nolgellau, "Peidied neb a gwneyd lle i mi. Yr wyf yn bwriadu gwneyd lle i mi fy hun; ac wedi i mi wneyd fy lle fy hun, odid fawr na fedraf lenwi hwnw." Gwnaeth le mawr iddo ei hun mewn llawer o gylchoedd, a llanwodd ei le ymhob cylch yn drwyadl.

Nid mor hawdd ydyw nodi allan ei ragoriaethau, gan ei fod, fel gwyneb yr haul, yn disgleirio ymhob cwr. Gellir dweyd heb ddim petrusder iddo ymgodi fel pregethwr yn fuan ymhell uwchlaw ei holl frodyr yn Ngorllewin Meirionydd. Yr oedd yr engraifft oreu a welwyd mewn unrhyw oes o ddyn wedi llwyr ymgysegru i waith y weinidogaeth. Mawrhaodd ei swydd, a gosododd urddas arni gerbron pob graddau o ddynion. Nid oedd ei gorff ond gwanaidd, a bu mewn nychdod lled fawr amryw weithiau yn ystod ei oes fer, a'r syndod bron anesboniadwy ydyw iddo allu cyflawni yr holl waith a wnaeth trwy gymaint o wendid. Cafodd ei ddonio, mae'n sicr, â doniau uchel iawn i'r weinidogaeth; ac os derbyniodd ddeg talent gan ei Arglwydd, enillodd yntau, trwy lafur dybryd, ddeg talent eraill atynt. Byddai ei bregethau wedi eu cyfansoddi yn fanwl a gorphenedig cyn esgyn o hono i'r pulpud, a thraddodai y pregethwr hwy gyda'r fath egni a gwres, a chyda'r fath areithyddiaeth aruchel, nes peri i'w wrandawyr synu ac addoli, a byddent yn cael eu cario i fyny gan nerth ei areithyddiaeth, fel y cariwyd Ioan i fyny yn Llyfr y Datguddiad, i weled gogoniant trefn gras Duw. Rhoddid ef i bregethu ymhob Cyfarfod Misol ddwy waith y rhan fynychaf, y nos gyntaf ac am ddeg o'r gloch dranoeth. Disgwylid am wledd pan ddelai y lliaws ynghyd i wrando arno, ac ni chai neb ei siomi. Bu ei bregethau ef, noson gyntaf y Cyfarfod Misol, dros faith flynyddau, y gallu cryfaf yn ddiameu i godi Methodistiaeth a chrefydd yn y wlad. "Byddwn i yn disgwyl i Mr.