Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/467

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morgan fod yn dda," meddai y Parch. Rees Jones, Felinheli, yn ei anerchiad ar lan ei fedd, "pan yr elwn i wrando arno yn pregethu, ond bob amser elai tuhwnt i'm disgwyliad." Ni ddywedwyd gwell gwir erioed, rhagori y byddai ar ddisgwyliadau pawb, pa mor uchel bynag fyddai eu disgwyliad wrtho. Yn wahanol i lawer o ddynion mawr, rhagorai Mr. Morgan yn gyfatebol ymhob gwaith yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur. Wrth wrando arno yn pregethu, teimlai ei wrandawyr fod yn anmhosibl i neb bregethu yn well; pan yn arwain y cynhadleddau yn y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa, rhoddai argraff ar feddwl pawb ei fod yn gwneuthur hyny yn y modd rhagoraf; pan yn cynghori yn y cyfarfod eglwysig, yn gweinyddu mewn angladd, yn arholi yn y Cyfarfod Ysgolion, yn traddodi anerchiad ar yr hustings yn amser etholiad-elai drwy ei waith yn yr holl gylchoedd hyn yn y modd mwyaf meistrolgar. Yr oedd y business man goreu y gellid ei gyfarfod, a phan esgynai y pulpud o ganol helyntion amgylchiadol yr achos, byddai fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef. Pa waith bynag a gymerai mewn llaw, fe'i gwnelai mor berffaith na fedrai neb feddwl am gynyg ei wella ar ei ol. Mor hyfryd fyddai edrych arno yn llywyddu mewn unrhyw gyfarfod, yn chwipio trwy y pethau bychain a dibwys, gan feddu llygaid eryr i wybod pa bryd i roddi amser i'r pethau a ofynent am amser. Pwy bynag arall a geid yn ffyddlon ac yn selog, efe, yn ei ddydd, fyddai yn cynllunio ac yn ysgogi gyda phobpeth. Rhoddodd gychwyniad i lawer o gynlluniau, a chydag yni dyn wedi ei feddianu gorff ac enaid gan ysbryd gwaith, cariodd hwy allan, i raddau pell, er cyfarfod â llu o wrthwynebiadau cryfion. I ddefnyddio cymhariaeth o'i eiddo ef ei hun, edrychai yn myw llygaid pob llew a'i cyfarfyddai, nes ei wanychu, a pheri iddo gilio o'r ffordd. Efe ydoedd bywyd a phen-rheolwr y Cyfarfod Misol. Engraifft o hyny ydyw dywediad brawd o flaenor yn y sir, yr hwn oedd yn ymgynghori ag of o berthynas