i ryw fater yn yr eglwys y perthynai iddi. "Deuwch ag ef i'r Cyfarfod Misol," ebe Mr. Morgan. "I ba beth y gwnawn ni hyny?" atebai y blaenor, "ond y chwi ydyw y Cyfarfod Misol." Mae y sylw yn arwyddo mai dyna syniad y wlad, yr hyn oedd wir. Cymerai yr arweiniad, yn un peth, am fod arwain yn gynhenid yn ei natur, ac hefyd oddiar wir ofal am achos yr Arglwydd yn yr holl eglwysi. Eiddigeddai âg eiddigedd mawr dros lwyddiant yr achos, a hiraethai o eigion ei galon am weled diwygiad yn yr eglwysi, yn enwedig diwygiad mewn cynhaliaeth briodol i'r weinidogaeth. Baich mawr ei fywyd oedd llafurio i ddeffro y wlad tuag at ei dyledswydd i osod arolygiaeth a bugeiliaeth ar yr eglwysi. Ceir ychwaneg ar hyn mewn penod sydd yn dilyn. Tybid gan rai, mae'n wir, y byddai yn gyru yn rhy chwyrn, ac yn cario pethau ymlaen a llaw uchel, a thynai y bobl a dybient felly yn ei ben yn fynych. Ond y gwir am hyn ydyw mai gŵr am fyned yn ei flaen oedd Mr. Morgan, a thuag at fod yn ddiwygiwr trwyadl, byddai raid iddo yn aml ymddangos fel yn cerdded o flaen ei oes. Nid mewn dim yr argyhoeddid ei gyfeillion agosaf, a'r rhai a'i hadwaenent oreu, yn gryfach, nag yn eu crediniaeth yn ei gydwybodolrwydd. Iddo ef, yn anad undyn, reality a safai y tucefn i'w holl weithrediadau. Er ei fod mor nodedig o flaenllaw ei hun, llawenhai yn fawr weled ei frodyr yn gweithio, rhoddai le dyladwy iddynt oll, ac amddiffynai hwy, fel penteulu yn amddiffyn tylwyth ei dŷ.
Fel prawf o'r gwaith mawr a wnaeth y gweinidog da a llafurus hwn, ac o'r parch a enillodd yn mysg eglwysi ei wlad, rhyw chwe' blynedd cyn terfyn ei oes, cyflwynodd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd dysteb iddo; yr hyn a wnaed i fyny o bwrs yn cynwys 220 gini, ynghyd â llestri tê a choffi, gwerth 52p. Cyflwynwyd y dysteb yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Ebrill 1865. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig i'r amcan nos Lun. Llywyddwyd gan W. Williams, Ysw., Ivy House,