Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/470

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac mewn ymchwiliad am un, enwa Dr. Edwards yn ei lythyr un o wyr blaenaf y Cyfundeb fel y cymhwysaf y gwyddai am dano, ac yna dywed,—"Next to him I would place Mr. Robert Williams, Aberdovey. In some respects I would place Mr. Williams first. In weight of character, piety, wisdom, and general usefulness, I doubt whether you could have any one to equal him. But as preaching talent is an essential qualification at Dolgelley, for this reason, and for this alone, I place him second on the list."

Cafodd Mr. Robert Williams ei fedyddio mewn modd arbenig iawn gan ysbryd y Diwygiad yn 1859—60. Yn y tymor hwnw yr oedd ei weinidogaeth yn anarferol o rymus, a thrwyddi hi dychwelwyd lliaws mawr o bechaduriaid at y Gwaredwr. Yr amser hwn, gwnelai sylwadau ar yr Ystadegau yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, ac wrth weled fod nifer mawr o ddychweledigion wedi eu hychwanegu at yr eglwysi, a bod gofal am danynt ar ol eu dychweliad, dywedai rywbeth i'r perwyl a ganlyn—Er fod Iesu Grist yn ddirmygus pan oedd yma yn y byd, yr oedd ganddo ddillad gwerthfawr. Ni wnaeth y milwyr gyfrif yn y byd o ddillad y lladron, ond wedi croeshoelio, Iesu Grist, fe aethant i ranu ei ddillad ef. Mae yn dda iawn gen i feddwl fod miloedd rhwng bryniau Meirion nad ydynt ddim am adael i'r Iesu fod mewn dillad gwael.

Pregethai mewn Cyfarfod Misol yn Mhennal, pan oedd y Diwygiad yn ei bwynt uchaf, ac y mae hanes y bregeth hono yn dangos pa mor nefolaidd oedd ysbryd y pregethwr, a pha mor uchel yr oedd teimladau y gwrandawyr yn amser y diwygiad hwn. Yr oedd y gorfoledd mor gyffredinol fel mai trwy anhawsder mawr y gallai y pregethwr gael myned ymlaen i bregethu. Wedi i'r bregeth gyntaf fyned trosodd, ac i Mr. Williams gymeryd ei destyn, dywedai yn debyg i hyn:—"Da chwi, ceisiwch ymlonyddu am ychydig; mae yn dda iawn gen i weled y teimladau uchel yma, ond phery rhain ddim yn hir.