Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/471

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhaid i ni gael rhywbeth fydd yn aros gyda ni-rhywbeth fyddo yn adeiladaeth i ni wedi i'r teimladau yma fyned heibio. Mi fyddai yn dda gen i pe gallech ymdawelu, i mi gael myned ymlaen i ddweyd tipyn o'r gwirionedd." "O'r gora," ebe hen gymeriad hynod oedd wedi dyfod bellder o ffordd i'r cyfarfod, o'r enw Dic Pugh, Llanwrin, yr hwn a safai yn yr alley yn agos i ganol y capel-"o'r gora, mi gymra i ofal y patch yma, i'w cadw nhw 'n ddistaw." Ac yn ol ei air, pan y digwyddai i'r bobl roddi ymollyngiad i'w teimladau, gwnai ei oreu i'w cadw yn ddistaw, dywedai wrth hwn am dewi, rhoddai ysgydwad i un arall, a chauai ei ddwrn ar y lleill. Ond bob yn dipyn yr oedd ysbryd y pregethwr yn gwresogi, a chyda'i lais nefolaidd dywedai yn gynes am y Gwaredwr, a'r groes, a'r gwaed, fel na ellid cadw y bobl rhag tori allan i waeddi eto. "O ho!" ebe Dic Pugh, "os ewch chwi ymlaen y ffordd yna yn y pulpud, fedra i ddim cyflawni fy addewid i gadw y bobl yn ddistaw."

Y PARCH. ROBERT PARRY, FFESTINIOG (A.D. 1845—1880).—Rhoddwyd crynhodeb o'i hanes eisoes mewn cysylltiad âg eglwys Peniel, lle bu yn llafurio gyda chysondeb a llwyddiant am flynyddau lawer. Yr oedd efe yn wr deallus, yn ddiwylliedig ei feddwl, a thrwy fawr ymdrech wedi cael addysg Athrofaol. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu ac ymsefydlu yn Ffestiniog, daeth i gymeryd rhan flaenllaw gydag achosion yr eglwysi yn y sir. Perthynai iddo lawer o ddeheurwydd gyda phob gwaith a gymerai mewn llaw. Gwnaeth lawer mewn holwyddori yr ysgolion-lle y rhedai ei dalent yn fwyaf amlwg-mewn holi blaenoriaid, mewn ymweled â'r eglwysi, ac mewn cyflawni yr holl orchwylion a berthynent i'r Cyfarfod Misol. Elai i gynal cyfarfodydd eglwysig i'r ardaloedd o amgylch ei gartref, cyn i weinidogion gael eu gosod ar yr eglwysi. Gweithiodd yn ddiwyd a ffyddlon, mewn amser yr oedd y gweithwyr yn anaml yn y sir.