Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/478

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bethel, ac yr oedd efe o hyny allan yn weinidog ar y ddwy eglwys. Yn Sir Feirionydd, yn gystal ag yn Sir Ddinbych cyn hyny, yr ydoedd yn weithgar a defnyddiol gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, ac ar y blaen gyda holl symudiadau yr achos. Rhedai cwrs ei feddwl yn gryf gyda threfniadaeth eglwysig. Gwnaeth lawer, ac feallai fwy na'r un gweinidog arall, i gael pethau i drefn yn y Cyfundeb, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol a chyfrifon eglwysig. Mae ei lyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Elfenau Methodistiaeth yn gofgolofn o'i allu, a'i fedr, a'i lafur gyda threfniadaeth eglwysig. Yn y gwasanaeth hwn a wnaeth i'w wlad, safai yn uwchaf ymysg lliaws ei frodyr. Yr oedd yn ŵr pwyllog, a doeth, a nodedig o gymdeithasgar; ei gymeriad yn bur a difrycheulyd; ei weinidogaeth yn ymarferol a gafaelgar; ei ysbryd bob amser wedi ei drwytho yn yr hyn oedd gywir, a dihoced, a chrefyddol; ei farn yn addfed ar bob mater, a holl amcan ei fywyd wedi ei gysegru yn erbyn pechod a drygioni, yn ei holl agweddau. Ar gyfrif ei fywyd diargyhoedd, ei ymroddiad diball, a'r gwasanaeth a wnaeth i'r Methodistiaid mewn llawer cylch, bydd ei goffadwriaeth yn barchus dros amser hir i ddyfod. Bu farw Hydref 23ain, 1889, yn 71 mlwydd oed.

Y gweinidogion y rhoddwyd ychydig ddarluniad o honynt oeddynt arweinwyr y Cyfarfod Misol o'i sefydliad hyd yn awr. Heblaw hwy, bu amryw weinidogion a phregethwyr eraill yn dra gwasanaethgar yn eu dydd. Lewis William, Llanfachreth, yn ddiameu oedd y ffyddlonaf o holl lefarwyr Sir Feirionydd. Dyn ydoedd a gyfodwyd gan yr Arglwydd, i wneuthur gwaith ardderchog, mewn amser o dywyllwch ac anwybodaeth mawr. Mae y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn wedi ei britho â chyfeiriadau at y gwaith a wnaeth. Richard Roberts, Dolgellau, a wnaeth lawer o wasanaeth gyda'r Ysgol Sabbothol, ac mewn pregethu yn lleoedd bychain y sir, yr un adeg a dyddiau Lewis William. Bu hefyd dros hir amser yn bregethwr adnabyddus