Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/479

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a chymeradwy drwy ranau helaeth o'r wlad. Parhaodd yn ffyddlon ar y maes hyd yr amser yr oedd y to presenol o bregethwyr yn dechreu ar eu gwaith. Oddeutu yr un amser y terfynodd oes Humphrey Evans, Maethlon. Gwr ffraeth a diddanus oedd efe, ac un yn meddu, fel y dywedir, gryn lawer o asgwrn. Rhoddai i'r gwrandawyr "ddidwyll laeth y gair," a byddai ar brydiau o dan yr eneiniad, yn enwedig wrth weinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Un o feibion natur ydoedd, ac wedi derbyn ei addysg yn ysgol natur. William Jones, Maethlon, a gymerwyd i'r orphwysfa rhyw ddeng mlynedd o'i flaen yntau. Cofir am dano fel un hyfryd iawn i'w wrando. Meddai lais a dawn mwy poblogaidd na llawer o'i gyd-oeswyr, natur gymdeithasgar, a dull enillgar. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn niwygiad Beddgelert, a bu graddau o ôl yr amser hwnw arno ar hyd ei oes. Pregethwr melus a chymeradwy iawn y cyfrifid ef gan bawb. Cyd-oesai Dafydd Williams, Talsarnau, â'r brodyr a enwyd. Yr oedd ef yn fwy sylweddol na rhai o honynt, ond ei ddawn yn llai poblogaidd. Dilynodd Humphrey Williams, Ffestiniog, lawer ar y Cyfarfodydd Misol am ddeugain mlynedd, a chlywid ei leferydd ynddynt yn fynych. Defnyddiai gymhariaethau a gwnai sylwadau tarawiadol; a chan ei fod yn meddu graddau o ffraethineb a dawn ymadrodd lled helaeth, gwnai argraff ar y cynadleddau pan y byddai eraill wedi methu. Ac am ei ymdrechion yn gwasanaethu crefydd yn y sir trwy lawer o anhawsderau, mae yn sicr o fod yn haeddu clod. Yr oedd Robert Griffith, Bryncrug, yn hen was i Mr. Humphreys. Gŵr serchog, crefyddol, hawdd ei drin, a pherffaith ddidwyll yn ei holl ymwneyd a phethau y ddau fyd. Yr oedd Griffith Evans, Bryncrug, wedi hyny o Aberdyfi, yn fwy deallus na llawer, yn foneddigaidd ei ymddygiad, yn ddiargyhoedd ei rodiad, ac yn perchen argyhoeddiadau dyfnion. Cyfrifid Owen Roberts, Llwyngwril, gan y gwrandawyr yn bregethwr o radd