Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/480

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uchel, a bu am ran o'i oes yn gymeradwy, a llawer o alwad am dano. Gwasanaethodd Owen Roberts, Llanfachreth, ardaloedd ei gartref gyda ffyddlondeb a chymeradwyaeth mwy na'r cyffredin, ond daeth ei oes i'r pen cyn iddo ddyfod yn adnabyddus mewn cylch eangach. Bu Hugh Roberts, Corris, hefyd yn llafurus a defnyddiol yn ei weinidogaeth dros dymor hir.

Y mae rhai o'r blaenoriaid wedi llenwi lle amlwg gyda'r achos yn y sir yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf. Bu llu mawr o honynt, yn wir, yn nodedig o ddefnyddiol yn eu cartrefi, am y rhai y gwnaethpwyd coffhad ynglŷn â'r lleoedd yr oeddynt yn byw. Nid oes a fynom yn awr ond ag ychydig nifer a fuont fwyaf blaenllaw gyda gwaith y Cyfarfod Misol. Morris Llwyd, Cefngellcwm, a dreuliodd ran helaeth o'i oes yn dilyn y cyfarfodydd pan oedd dau pen y sir yn un, ac am dros bum' mlynedd ar hugain wedi hyny. Cafodd ef addysg yn moreu ei oes, ac yr oedd yn ŵr pwyllog, ac yn perchen barn gywir. Iddo ef yr ymddiriedid y cyfrifon, a'r arian, ac ato ef yr apelid am gyngor mewn achosion dyrus. Pe gofynasid pwy oedd y llareiddiaf o'r tô o hen flaenoriaid y sir, tebyg iawn mai yr ateb fuasai, Morris Llwyd, Cefngellewm. Cyfrifid William Ellis, Maentwrog, yn rhan hanfodol o'r Cyfarfod Misol yn ei amser. Ond llefaru y byddai ef, nid trefnu. Ystyrid ef y lleiaf o'r trefnyddion, a'r llefarwr penaf o'i urdd. Mewn cynghori, ymweled â'r eglwysi, trin materion pwysig yn yr eglwysi, safai ochr yn ochr â'r pregethwyr. Byddai Humphrey Davies, Corris, yn trefnu ac yn llefaru. Yr oedd ef yn wr meddylgar, hirben, medrus mewn gyru gwaith ymlaen. Efe yn fynych fyddai llywydd y Cyfarfod Misol. Perthynai iddo awdurdod a threfnusrwydd. Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, oedd un o'r tywysogion ymysg y blaenoriaid. Gwelir oddiwrth y cofnodion y byddai yntau yn fynych yn llywydd y Cyfarfod Misol. A bu yn cael ei anfon drosto i'r