Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/481

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymdeithasfa a chyfarfodydd pwysig eraill, hyd yn nod cyn ei dderbyn yn aelod rheolaidd o hono fel blaenor. Cymerai ddyddordeb mawr yn yr achos yn allanol ac ysbrydol, fel y byddai yn trefnu ac yn ymdrafferthu, ac yn gwneuthur rhyw waith beunydd gyda rhyw ran neu gilydd o'r deyrnas. Mae eglwysi Gorllewin Meirionydd o dan ddyled fawr i'r boneddwr hybarch o Ivy House. Mr. W. Rees, Towyn, oedd ŵr o ymddangosiad boneddigaidd, a theimlad ystwyth; gosodai urddas ar y cyfarfodydd, a phan y cyfodai i siarad ynddynt, gyda'i sel danbaid a gwresogrwydd ei natur, cadarnhai ei frodyr. Yr oedd Thomas Jones, Corris, er's cryn amser cyn diwedd ei oes, wedi dyfod yn un o'r blaenoriaid mwyaf gweithgar ac ymroddedig a fu erioed yn y sir. Y mae pawb sydd eto yn fyw yn cofio William Mona Williams, Tanygrisiau, yn ŵr o safle anrhydeddus. Ar gyfrif yr amser maith y bu yn y swydd, ei ymroddiad llwyr i bob gwaith, ei gynghorion synhwyrlawn, a'i gyfarwyddiadau tadol, ni bu yr un blaenor gan y Cyfundeb yn haeddu parch dau—ddyblyg yn fwy nag efe. Wrth gofio am y llu mawr o'r dynion hyn a fuont yn wyr enwog gynt, onid oes gwir yn ngeiriau Zechariah—"Eich tadau, pa le y maent hwy? A'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?"