Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/482

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III. YR AMRYWIOL SYMUDIADAU O 1840 I 1890.

CYNWYSIAD.—Cyfrifon cyntaf y Cyfarfod Misol—Yr Ysgrifenyddion cyntaf—Engreifftiau o'r Cofnodion—Ymdrafodaeth ynghylch ail uno dau ben y sir—Y Parch. John Williams yn Ysgrifenydd, ac yn ymadad i'r America—Darluniad o'r Cyfarfod Misol yn 1849—Cymedrolwr y Cyfarfod Misol, a'r dull presenol o ethol llywyddion—Trefniad y Cyfarfodydd Misol i fyned ar gylch—Cofnodiadau pellach o'r Cof-lyfr—Eiddo y Cyfarfod Misol.

 AN ranwyd y sir yn 1840, dechreuwyd cadw cofnodion rheolaidd o weithrediadau y Cyfarfodydd Misol. Nid oedd y pryd hwn ond ychydig o gyfrifon yr eglwysi yn cael eu casglu; ymhen naw mlynedd wedi hyn yr argraffwyd hwy am y waith gyntaf. Un o'r pethau cyntaf ydym yn gael yn y Cof-lyfr ydyw enwau y llefarwyr, a rhestr o'r teithiau yn y Pen Gorllewinol o'r sir. Nifer y Teithiau Sabbothol ydyw 16; gweinidogion 3; pregethwyr 18. Ar ddiwedd yr un flwyddyn, yr oll o gyfrifon a gofnodir sydd fel y canlyn:—Gwrandawyr, 8344; aelodau mewn cymundeb, 2923; rhif y plant, 1404; derbyniwyd 587; ar brawf, 254; gwrthgiliodd, 20; diarddelwyd, 32; bu farw, 40. Yr oedd nifer yr aelodau eglwysig y flwyddyn hon yn fwy nag y gwelir hwy dros rai blynyddoedd wedi hyn. Dywed Methodistiaeth Cymru, "Bu chwanegiadau mawrion at yr eglwysi yn Sir Feirionydd yn y blynyddoedd 1839-40, er nad oedd rhyw gyffroad a gorfoledd nerthol yn eu dilyn; ond yr oedd arwyddion o bresenoldeb Duw yn y llef ddistaw fain,' " Y