Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/483

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tebyg ydyw i'r cyfrif uchod gael ei wneuthur ar dop llanw y diwygiad hwn, ac i nifer o flynyddau o drai ddilyn ar ol y llanw, oblegid yn hanes dynion, fel yn hanes y môr, fe geir fod trai a llanw, a llanw a thrai, yn dilyn y naill ar ol y llall.

Y cyntaf a osodwyd yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y rhan Orllewinol oedd Mr. John Jones, Plasucha', Talsarnau, wedi hyny o Ynysgain, gŵr medrus ac ymroddgar gyda phob gwaith crefyddol. Yn ei lawysgrifen ef y ceir y cofnodion am yr haner blwyddyn cyntaf, ond cyn i'r flwyddyn y gosodwyd ef yn ei swydd fyned allan, symudodd i Sir Gaernarfon i fyw. Y Parch. Daniel Evans, y pryd hwnw o Harlech, a gymerodd y gwaith ar ei ol, a bu yn ysgrifenydd dros ysbaid o chwe' blynedd. Byr ydyw y cofnodion y tymor hwn-gwaith pob cyfarfod yn myned i un tudalen o'r llyfr, a gwaith pob un yr un faint a'r llall, mis Ionawr yr un fath a mis Awst. Eu cynwys fel rheol ydyw, sylw ar y materion yr ymdrinid â hwy, ynghyd a phrofiad blaenoriaid y lle a'r rhai a dderbynid o newydd, a'r cynghorion a roddid iddynt. Un o'r penderfyniadau yn Nghyfarfod Misol Mai 6, 1810, ydyw,-"Penderfynwyd yn unllais ar i bob taith Sabbothol ofalu am anfon cenad i bob Cyfarfod Misol a chwarterol, a bod i bob Hefarwr ddyfod yno, neu anfon gair o'i hanes gyda brawd arall." Oes y teithio ydoedd, ac elai llawer o'u hamser i drefnu cyhoeddiadau rhai a ddelent i'r sir, ac i ganiatau i eraill fyned allan o honi. Byddai llawer o ddyfod i mewn a llawer o fyned allan y pryd hwnw. Rhoddir yr engreifftiau canlynol er dangos y gwaith fyddai gan y tadau i'w wneuthur, yn gystal ag o'u dull syml, ac weithiau lled ddigrifol o fyned trwy eu gorchwylion. Yn Nghyfarfod Misol Ystradgwyn, yn y flwyddyn 1840,Penderfynwyd i'r brodyr 'canlynol fyned allan o'r sir: Richard Roberts i Sir Fon; Richard Humphreys i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dolgellau, heb benderfynu i ba le." Eto, "Dolgellau, Mawrth, 1841: rhoddwyd caniatad