Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/487

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth tymor y Parch. John Williams fel ysgrifenydd i fyny yn 1854, gan iddo yn y flwyddyn hono ymfudo i'r America. Yn Nghyfarfod Misol Abermaw, y 7fed dydd o Fawrth, y mae yn ffarwelio â'i hen gyfeillion, a llythyr o gyflwyniad iddo at y brodyr yr ochr draw i'r môr yn cael ei ddarllen yn un o'r cyfarfodydd cyhoeddus, wedi ei ysgrifenu gan Mr. Morgan, a'i arwyddo gan naw o weinidogion a thri o flaenoriaid y sir. Ac fel arwydd pellach o barch y brodyr tuag ato, rhoddwyd gorchymyn i'r trysorydd i'w anrhegu âg wyth bunt o bwrs y Cyfarfod Misol. Bu yn wasanaethgar iawn i grefydd ar ol ei fynediad i America, ac yn weinidog rheolaidd ar amryw eglwysi, a bu farw yn Waukesha, Wisconsin, Ebrill 30ain, 1887, yn 81 mlwydd oed. Yn y Cyfarfod Misol uchod, anogwyd y Parch. Robert Williams, Aberdyfi, i ymgymeryd â bod yn ysgrifenydd rhagllaw; ond ni wnaeth efe hyny. Mr. Morgan, fel y gwelir oddiwrth y llawysgrif, ydyw yr ysgrifenydd hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Ar ddechreu 1855, penodwyd y Parch. William Davies, yn awr o Lanegryn, i'r swydd. Mae yntau, oherwydd amledd gorchwylion eraill, yn rhoddi ei swydd i fyny yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1873, a phleidlais unfrydol o ddiolchgarwch yn cael ei chyflwyno iddo am ei wasanaeth medrus a ffyddlon dros dymor maith. Yn yr un cyfarfod, etholwyd trwy bleidlais ddirgel, yr ysgrifenydd presenol, ac ail etholir ef bob blwyddyn o hyny hyd yn awr. Yr enw sydd i'w gael yn y cofnodion ar y llywydd, neu y cadeirydd, hyd oddeutu y flwyddyn 1860, ydyw Cymedrolwr. Mae yr enw, fel y cydnebydd pawb, yn hynod o arwyddocaol, ac ar lawer ystyr yn well na'r enwau a ddefnyddir yn bresenol. Ni byddai etholiad na dewisiad ar y cymedrolwr yn yr amser gynt; penodid rhyw frawd i'r swydd yn y fan a'r lle, ar ymgynulliad y brodyr ynghyd, trwy gynygiad a chefnogiad, a chyfodiad llaw y frawdoliaeth. Gwnaethpwyd cyfnewidiad yn y drefn hon drwy i Mr. Morgan ddwyn cynygiad ymlaen