Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/488

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1869, i ddewis llywydd am flwyddyn, trwy bleidleisiad dirgel o'r holl weinidogion a'r pregethwyr, ynghyd âg un blaenor o bob eglwys a fyddo yn bresenol. Ar ol cryn lawer o ddadleu ynghylch hyd yr amser—rhai eisiau i'r llywydd fod yn ei swydd am chwe' mis, ac eraill yn dadleu dros dymor o dri mis—etholwyd Mr. Morgan yn llywydd am yr oll o'r flwyddyn hono. Wedi cael prawf ar y cynllun hwn am ddwy flynedd, ail ystyriwyd y mater, a mabwysiadwyd y cynllun o ethol dau lywydd yn mis Ionawr bob blwyddyn, pob un i lywyddu am chwe' mis.

Ar y dechreu, ni byddai unrhyw drefn na rheol gyda golwg ar amser a lle y Cyfarfodydd Misol. Byddai yn rhan o waith pob un i drefnu pa le y byddai y nesaf i fod. Agorai y brodyr blaenaf eu llyfrau, i weled pa le y digwyddai eu cyhoeddiadau fod, ac wedi rhyw gymaint o gyfnewid geiriau ar y mater, penderfynid i'r cyfarfod dilynol fod yn y lle ac ar yr amser fyddai yn cyfarfod â chyfleusdra y brodyr hyn. Mae y cynyg cyntaf tuag at drefn i'w gael ar ddiwedd 1847, pryd y dywedir i ymddiddan gymeryd lle ynghylch sefydlu y Cyfarfodydd Misol mewn plan, "ond gwrthwynebwyd hyny, a barnwyd mai gwell ydyw i ni barhau megis ag y byddid o'r blaen." Ond yn Nghyfarfod Misol Pennal, Mawrth, 1852, "rhoddwyd ar y Parch. Mr. Morgan i ffurfio cynllun o drefn ac amser y Cyfarfodydd Misol rhagllaw." Ac yn mis Hydref yr un flwyddyn, dygwyd ymlaen gynllun am bum' mlynedd, a phenderfynwyd ei argraffu ar gerdyn, a golygid iddo fod yn anghyfnewidiol, "oddieithr mewn amgylchiadau o Wyl neu Ffair." Yr oeddynt i gael eu cynal o hyn allan ar y Mawrth a Mercher cyntaf ymhob mis. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1856, penderfynwyd i gynal y Cyfarfodydd Misol ar y Llun a Mawrth cyntaf yn y mis. Dyna amser dechreuad y drefn hon. Bu rhai o'r hen bregethwyr yn cwyno yn arw yn erbyn i'r cyfarfodydd ddechreu ar ddydd Llun, gan y byddent yn