Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/489

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flinedig ar ol teithio bellder ffordd o'u taith y Sabbath blaenorol. Dadleuid, modd bynag, yn gryf a llwyddianus, fod y drefn o'u dechreu ddydd Llun yn bwyta llai o amser y gweinidogion a'r pregethwyr. Cofir gan rai eto fel y dadleuid yn bybyr y blynyddoedd cyntaf yn erbyn newid y cynllun mabwysiedig, oblegid byddai gan hwn a'r llall eu gwahanol resymau tuag at gyfarfod eu hamcanion personol eu hunain. Digwyddai dros ryw dymor fod Cyfarfod Misol Arthog yn disgyn bob tro ar yr wythnos gyntaf yn Mai. A phan yr hysbysid amser hwn yn y cyfarfod y mis blaenorol, byddai John Lewis, blaenor Seion, bob amser ar ei draed, ac yn dywedyd, "Tawlwch o bythefnos yn mhellach, wir; fe fydd y gwair wedi darfod, a'r borfa heb godi." Golygai yr hen flaenor didwyll fod eisiau gwneuthur chwareu teg â'r ceffylau, y rhai yr amser hwnw a wnelent i fyny ran bwysig o'r Cyfarfod Misol. Wrth ei weled yn son am yr un peth bob tro, cyfodai Mr. Morgan i fyny un adeg a dywedai, "John Lewis, gadewch i'r Cyfarfod Misol fod yn ei amser; mi af fi a fy ngheffyl adref, ac fe ddeuwn yn ol acw dranoeth." Yr ydym yn cyfarfod â phethau lled hynod ynglyn â dygiad y gwaith ymlaen ddeugain mlynedd yn ol, megis y cofnodiadau canlynol: "Derbyniwyd 6c. o arian drwg mewn casgliad;" "daeth dymuniad o Abertrinant am gael maddeu pum' tro o'r casgliad bach;" "maddeuwyd wyth tro i Maethlon oblegid eu camgymeriad;" "anghofiodd yr hen dad Lewis Morris dalu y tro mis dros Seion (swllt); oblegid ei oedran maddeuwyd y tro iddo." Ceir hefyd oddeutu yr un pryd lawer o benderfyniadau pwysig wedi eu mabwysiadu, "Mai diangenrhaid yw gweinyddu y Sacrament i rai cleifion, ac ar farw, a bod eisiau athrawiaeth ar hyn yn yr eglwysi." Penderfynwyd fod y Cyfarfod Misol yn anog swyddogion y gwahanol eglwysi i gyd-gyfarfod-unwaith yn y mis neu rywbeth o'r fath-i drafod achosion yr eglwys,