Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/490

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac os na bydd ganddynt ddim achos neillduol i'w drafod, ar iddynt dreulio y cyfarfod mewn cyd-weddio." "Fod rhybudd cyffredinol i gael ei roddi ymhob eglwys, na byddo i neb arfer esgeuluso dyfod i'r society yn wythnosol: ac os na etyb hyn y diben, fod cenadwri bersonol i'w hanfon at y cyfryw a fyddo felly deirgwaith, oddiar esgeulusdra, am iddynt ddyfod i'r society, ac yna ymddiddan â hwy yn gyhoeddus ar hyn yn unig; ac os na etyb hyn y diben i'w diwygio, yna eu bod i'w tori allan, a'u diarddel o'r eglwys." Yn Nghyfarfod Misol Mai, 1846, mabwysiadwyd y ddau benderfyniad canlynol,—1. "Nad oes yr un capel newydd i'w adeiladu, na'r un hen, ychwaith, i gael ei adgyweirio, heb barotoad arian at hyny yn flaenorol, yn ol penderfyniad Cymdeithasfa Chwarterol y Drefnewydd." 2. "Fod arian yr eisteddleoedd a dderbynir oddiwrth gapelau diddyled, yn of barn y cyfarfod hwn, i gael eu traianu fel y canlyn,—(1) Un rhan i fyned at adgyweirio yr addoldai; (2) yr ail ran tuag at gynal yr Athrofa; (3) y drydedd ran at gynorthwyo y weinidogaeth." Ymhen y chwe blynedd ar ol hyn, yn y cynulliad yn Llanelltyd, ceir penderfyniad arall yn cael ei fabwysiadu ar y mater olaf, "Fod arian eisteddleoedd pob lle i gael eu defnyddio gan bob eglwys at yr achos yn y lle hwnw, ond bod y Cyfarfod Misol i anfon arolygwr yno bob blwyddyn, i edrych pa fodd y defnyddir hwynt." "Ni ddylai neb ostwng na chyfnewid dim yn mhrisiau yr eisteddleoedd, na gwneuthur dim cyfnewidiadau, ychwaith, perthynol i'r capel, yr ystabl, &c., heb ofyn a chael caniatad y Cyfarfod Misol i hyny yn gyntaf." Ac unwaith ceir y penderfyniad, "na thelir mwyach ddim o ddyledion neb." Gwaith a gymerodd lawer o amser y Cyfarfod Misol am bum' mlynedd ar hugain ydoedd, arolygiaeth yr eglwysi, sef gosod gweinidogion i ofalu am danynt. Ond gan mai hyn yw mater y benod nesaf, awn heibio. Treuliwyd llawer o amser, hefyd, trwy yr holl flynyddoedd, i