Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/492

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Awst, 1843, mae 300p. yn cael eu sicrhau ar lôg, yn ol 4 y cant. Bu y Cyfarfod Misol yn derbyn oddiwrth yr arian yma 13p. 10s. bob blwyddyn am 36 mlynedd, hyd y flwyddyn 1879. Derbyniwyd rhodd o 20p. i'r Drysorfa yma oddiwrth Gymdeithas Dorcas Salem, yn 1849. Yn y flwyddyn 1878, cymerwyd gwerth 350p. o shares yn y Chatham Building Society. Yn y flwyddyn 1889, trwy fod y llogau yn dyfod i lawr i 4p. y cant, penderfynwyd eu codi oddiyno, a dyna yw hanes y 350p. sydd yn llaw y trysorydd. Bu y Cyfarfod Misol yn talu at gyflogau yr athrawon, sef y 22p. 10s., o'r flwyddyn 1841 hyd y flwyddyn 1854, pryd y penderfynwyd gan y Gymdeithasfa, yn ychwanegol at hyn, fod 11p. yn flynyddol i gael eu talu at gynal y myfyrwyr; ac yn y flwyddyn 1857, maent eto yn codi cyflogau yr athrawon, fel y mae yn disgyn ar y Cyfarfod Misol 37p. 10s., heblaw yr 11p. at y myfyrwyr. Tuag at wneyd y swm yma y mae y Cyfarfod Misol yn trethu yr holl eglwysi yn ol eu rhif, a bod yr arian i ddyfod o arian yr eisteddleoedd. Bu y trefniant hwn yn cael ei gario allan hyd y flwyddyn 1862; yn y flwyddyn hon y cwblhawyd y casgliad gan Mr. Morgan yn swm y gall y Cyfarfod Misol ymffrostio ynddo, sef 2786p. 5s. 11c., ac ar ol cael y swm yma i mewn y manna a beidiodd. Mae y Drysorfa yn ddigon ar gyfer pob gofyn; ond er na wnaed yr un casgliad at yr Athrofa, yr oedd y llogau ar y 300p. yn dyfod yn flynyddol, ac yn 1864, daeth rhenti Llanfachreth i'w cynorthwyo, ac yr oedd hon yn Drysorfa ar ei phen ei hun, er cynorthwyo