Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/493

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lleoedd gweiniaid, sef achos Saesneg Towyn, Saron, Llanfachreth. Cafodd Hermon 10p. saith o weithiau, ond yr oedd mwy yn dyfod i mewn nag oedd yn myned allan, ac erbyn y flwyddyn 1875, mae mewn llaw yn y banc, 139p. 17s. 4c., a'r flwyddyn hon y mae cymunrodd o 120p. yn cael ei adael gan Mr. Williams, Ivy House, i'r Cyfarfod Misol, a phenderfynwyd gan y Cyfarfod Misol fod yr arian yna, sef 150p., yn cael eu sicrhau yn Nghymdeithas Adeiladu Pwllheli, a dyna ydyw hanes yr arian sydd yn Mhwllheli; ac yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf yr ydym wedi derbyn dros 200p. yn llogau o'r gymdeithas hon.

Mae yr hen dadau yn haeddu bythol glod am eu llafur a'u hymdrech yn casglu yr arian hyn. Buont laweroedd o weithiau yn gysur mawr i'r Cyfarfod Misol, er ei alluogi i estyn cynorthwy i'r eglwysi gweiniaid mewn amgylchiadau o gyfyngder.