Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/494

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IV.

Y FUGEILIAETH EGLWYSIG YN Y SIR.

CYNWYSIAD.—Parotoadau i gychwyn gyda'r fugeiliaeth—Y cychwyniad cyntaf yn Ngorllewin Meirionydd—Penderfyniadau Cyfarfod Llanrust—Dyfyniadau o Lyfr y Cofnodion—Y cynllun cyntaf yn cyfarfod & rhwystrau—Towyn a'r Gwynfryn fel Waterloo a Trafalgar—Araeth Mr. Morgan yn Nghyfarfod Misol Harlech—Yr holl eglwysi dan ofal gweinidogion yn 1853—Mr. Morgan y moving power—Y Genhadaeth Sirol—Anerchiad Mr. Morgan yn 1870—Adroddiad y Parch. Grigith Williams yn Nghymdeithasfe y Penrhyn—Y gweinidogion a'r eglesai dan eu gofal yn 1870 ac 1890.

 YWEDWYD mai rhan bwysig o waith y Cyfarfod Misol, am o leiaf y pum mlynedd ar hugain cyntaf yn ei hanes, ydoedd yr ymdrechion a wnaethpwyd i osod gweinidogion i ofalu am yr eglwysi. Haner can mlynedd yn ol, nid oedd yn y rhan hon o'r sir ond tri gweinidog ordeiniedig, yn meddu awdurdod rheolaidd i weini yr ordinhadau, ac nid oedd dim cysylltiad rhwng yr un o'r tri â'r un eglwys mwy na'i gilydd. Disgynai y gwaith o arwain ac o addysgu yn yr eglwysi ar y blaenoriaid y rhan fynychaf. Mae yn sicr i lawer o honynt hwy wneuthur gwasanaeth mawr, yn yr amser aeth heibio, trwy weini i gyfreidiau y saint mewn pethau ysbrydol; ac y mae mor sicr a hyny, fod yr Arglwydd wedi cyfodi llawer o ddynion cymwys i'r gwaith o blith dosbarth hwn o swyddogion eglwysig. Nis gellir rhoddi gormod bris ar y gwasanaeth a wnaethant yn yr amser gynt, yn gystal a'r gwasanaeth a wnant yn yr amser presenol. Mae