Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/496

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb allu dweyd mai ei fantais bersonol ei hun oedd ganddo mewn golwg. Ond y sylw cyntaf a wnaethpwyd ar y mater yn Ngorllewin Meirionydd ydoedd, yr hyn sydd i'w gael yn nghofnodion Cyfarfod Misol Tanygrisiau, Mai y flwyddyn grybwylledig, "Fod y cyfarfod hwn yn cymeradwyo ac yn cefnogi, ar fod i ryw gynllun priodol gael ei ffurfio, i alw a chynal rhyw nifer o'r llefarwyr yn y pen yma i'r sir i fod yn hollol gyda gwaith y weinidogaeth, ac ymofynir eto yn mis Mehefin, a fydd neb wedi cael allan lwybr deheuig ac effeithiol i ddyfod a hyn oddiamgylch." Gwnaed ymholiad ynghylch y mater yn y cyfarfod dilynol fel y trefnwyd, "a gofynwyd yn bersonol i bob blaenor oedd yn bresenol am ei olygiad ar byn, a chytunwyd yn unfryd ar fod i geiniog yn nghyfer pob aelod gael ei gyfranu gan yr eglwysi bob mis, a dechreu ar hyny yn ddioed, er cynal dau frawd yn ol y cynllun allan o law." Ymhen y ddeufis, drachefn, "Ymddiddanwyd ynghylch y peth a fu dan sylw yn y ddau Gyfarfod Misol blaenorol, sef cael allan lwybr esmwyth ac effeithiol i gynal dau frawd, sef y Parchn. Rees Jones, Abermaw, ac Edward Morgan, Dyffryn, i fod yn ymroddgar hollol gyda gwaith y weinidogaeth. Ond barnwyd nad oedd y cynllun y penodwyd arno yn foddhaol gan yr eglwysi." Anghredadwy o fychan ydoedd y tâl am wasanaeth Sabbothol yn y sir y pryd hwn, hyd yn nod yn y teithiau cryfaf, a gwaith anhawdd ydoedd symud oddiwrth yr hen derfynau. Gwaith hefyd megis symud mynyddoedd ydoedd ysgogi ymlaen i osod gweinidogion cyflogedig ar yr eglwysi Yn nghladdedigaeth Mr. Morgan, adroddodd y Parch. Rees Jones, Felinheli, am ymddiddan a gymerodd le rhyngddynt ill dau ar y ffordd i Ffestiniog at y Sabbath, pan oeddynt yn bregethwyr lled ieuainc. "Rhaid i ni ddysgu yr eglwysi i gyfranu," meddai Mr. Morgan. "Wel," atebai Mr. Jones, os gwnawn ni hyny, ni a roddwn ein hunain yn agored i gyhuddiadau ein bod yn fydol ac ariangar." "Gadewch i hyny fod," meddai