yntau, drachefn, "ni a gawn y fraint o ddioddef er mwyn crefydd." Yn nechreu 1847, y mae Mr. Jones yn symud i'r Felinheli, i ddilyn ei alwedigaeth fel llong-adeiladydd; ac oddeutu canol yr un flwyddyn, y mae Mr. Morgan yn dechreu ar ei weinidogaeth fel gweinidog galwedig yr eglwys yn Nolgellau.
Yn mis Mawrth, 1848, cynhaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr y siroedd yn Llanrwst, yn unol â threfniad y Gymdeithasfa y flwyddyn flaenorol, gyda'r amcan o ystyried y mater o gael arolygiaeth ar yr eglwysi. Y Parch. Richard Humphreys, a William Ellis, Maentwrog, oeddynt y cenhadon dros Orllewin Meirionydd i'r cyfarfod hwn. Yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, yn Ebrill dilynol, rhoddodd y cenhadon adroddiad o'r ymdrafodaeth a fu yn nghyfarfod Llanrwst, gan hysbysu i'r penderfyniadau canlynol gael eu mabwysiadu yno: 1 Rhoddi cefnogaeth Gymanfaol i eglwys neu eglwysi i alw gweinidog neu bregethwr i lafurio yn eu plith trwy gydsyniad y Cyfarfod Misol. 2 Anog pob sir i feddwl am ffordd i ryddhau rhyw nifer o bregethwyr oddiwrth eu gorchwylion bydol i ryw raddau, fel y gallont ymgyflwyno yn llwyrach i gynorthwyo eglwysi gweiniaid, ac i deithio pan fyddo yn angenrheidiol i siroedd eraill. 3 Nad oes i neb gael rhyddid i fyned o'r sir, heb lythyr oddiwrth ysgrifenydd y sir at ba un y mae yn myned, yn gofyn am hyny. "Cynygiwyd y pethau hyn (yn Nghyfarfod Misol Dolgellau), a chefnogwyd hwy, a rhoddwyd arwydd o foddlonrwydd a chymeradwyaeth y cyfarfod iddynt trwy godiad llaw."
Ymhen pedair blynedd ar ol hyn y mae y symudiad nesaf yn cymeryd lle, ac o hyny ymlaen y mae cynygion lawer yn cael eu rhoddi ar droed, a brwydrau poethion yn cael eu hymladd, am o leiaf ddeng mlynedd. Er rhoddi mantais i weled y gwahanol symudiadau yn y tymor hwn, mor oleu ag y gellir, y mae yn rhaid dyfynu cryn lawer o Lyfr y Cofnodau.