Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/498

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Nghyfarfod Misol Abermaw, Ebrill, 1852, ceir y mater yn dyfod dan sylw. Rhoddid adroddiad yn y cyfarfod hwnw o ymweliad a wnaethid a'r holl eglwysi, ac mewn canlyniad i'r ymweliad mae y sylw canlynol yn cael ei wneuthur:—"Gyda golwg ar eglwysi Abergeirw, Bontddu, Llanelltyd, ac eraill, dywedwyd fod yn rhaid i'r eglwysi cryfion ddyfod allan i gynorthwyo y rhai hyn a'u cyffelyb, a bod mawr eisiau anfon brodyr o ddawn yno i ymweled â hwy yn awr ac eilwaith." Oddeutu yr un dyddiau, cynhelid Cymdeithasfa yn y Trallwm, lle y bu ymdrafodaeth bwysig ar yr un mater. Ac yn Nghyfarfod Misol Penrhyndeudraeth, ar y 3ydd a'r 4ydd o Fai, cymerwyd ef i fyny gyda'r un difrifwch drachefn,—"Gwnaed sylw ar ddymuniad Cymdeithasfa y Trallwm ar yr angen am ryw lwybr i fugeilio y mân eglwysi sydd ar hyd y wlad. Mynegwyd am gynllun yr oeddid newydd ysgogi gydag ef ymhen draw ein sir, sef fod i bob eglwys geisio cymorth un pregethwr atynt un society o bob mis, ac yn amlach os dewisir; fod iddynt ddewis y neb a fynont hwy, ond fod y neb a ddewisir i barhau yn y swydd am flwyddyn. Cydsyniwyd i dreio cael hyn yn y pen yma." Yn y Cyfarfod Misol dilynol. yn Llanegryn cofnodir,—"Gwnaed sylw ar y mater a nodwyd yn Nghyfarfod Misol y Penrhyn, ynghylch bugeiliaeth yr eglwysi, sef fod i bob eglwys alw rhyw frawd i'w chynorthwyo i gadw society, ac i lygadu ar sefyllfa yr achos yn gyffredinol yn y lle. Dangoswyd yr angenrheidrwydd mawr sydd am hyn yn y dyddiau presenol, yn ngwyneb ymosodiad grymus ar y wlad gan Babyddion, Puseyaid," &c. Bu sylw drachefn ar yr achos yn Nghymdeithasfa Llangefni yr un flwyddyn, ac ar ol hono, sef yn Nghyfarfod Misol Maentwrog, ar yr 2il a'r 3ydd o Awst, y mae Gorllewin Meirionydd yn mentro trwy y tew a'r teneu i ddwyn cynllun ymlaen,—"Gwnaed sylw ar gynygiad Cyfeisteddfod Cymdeithasfa Llangefni ynghylch y modd i ddefnyddio arian eisteddleoedd y capeli diddyled. Dygodd y