Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/501

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei lafur. 5 Fod y cyfarfod hwn yn rhoddi hawl i bob eglwys i ddefnyddio y swm a farnont hwy yn angenrheidiol o arian yr eisteddleoedd at ddwyn traul y fugeiliaeth. 6 Fod y lleoedd canlynol...i roddi punt yn flynyddol i gynorthwyo y lleoedd canlynol............[Yma enwir deuddeg o leoedd cryfion i gynorthwyo deuddeg o leoedd gweiniaid]. A bod pob un o'r lleoedd gweiniaid a nodwyd i dderbyn y bunt pan y ceir eu bod wedi dewis bugail." Yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Mawrth, 1853, y mae hysbysiad yn cael ei wneuthur gan yr holl eglwysi am y personau yr oeddynt wedi eu dewis yn arolygwyr iddynt. Yna mae yn canlyn restr o'r holl eglwysi, fach a mawr, ac ar gyfer pob eglwys enw y gofalwr oedd i ofalu am dani. Dyma ddechreuad Bugeiliaeth Eglwysig yn Ngorllewin Meirionydd: ac ar y pryd y mae yn edrych yn gyflawn, gan fod pob un o'r eglwysi wedi eu gosod o dan ofal gweinidog neu bregethwr. Ni pharhaodd y drefn hon, pa fodd bynag, yn hir. Mae yn amlwg oddiwrth yr ymdrafodaeth ei bod yn nesaf peth i anmhosibl i syrthio ar gynllun cyffredinol, i gyfarfod â syniad a theimlad yr holl eglwysi gyda symudiad o'r fath bwysigrwydd a hwn. Nid oedd dim i'w wneyd ond gweithio pob cynllun allan i'r graddau y gellid, gan ddisgwyl cyfle, mewn amser cyfaddas, i'w berffeithio. Ac y mae y brodyr gweithgar oedd wrth y llyw y blynyddoedd hyn yn haeddu clod nid bychan am eu dewrder a'u dyfalbarhad yn gweithio ymlaen trwy y fath anhawsderau. Hysbys ydyw mai Mr. Morgan oedd yn rhoddi ysgogiad i bob diwygiad —efe oedd y moving power gyda phob gwaith er peri llwyddiant y deyrnas nad yw o'r byd hwn. Oblegid hyn, dygwyd cyhuddiadau yn ei erbyn laweroedd o weithiau, ei fod yn uchelgeisiol ac ariangar. Anghyfiawnder o'r mwyaf oedd dwyn y fath gyhuddiadau; ni bu dyn erioed mwy disglaer ei gymeriad a mwy clir oddiwrth bobpeth gwael ac isel. Mewn llythyr o'i eiddo at Mr. Williams, Ivy House, pryd yr oedd mewn