Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/502

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaeledd mawr yn niwedd y flwyddyn 1854, ceir cipolwg ar y pethau a ddywedid am dano, ac ar dystiolaeth ei gydwybod ef ei hun yn ngwyneb y pethau hyny. "As far as I understand the New Testament," ebai ar ol rhyw ystorom a gymerasai le yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd ar ryw fater, "I do not see that anything calls upon me to make sacrifices in every sense of tranquility of mind—domestic comfort—health-money, &c., and then to have all attributed to the lowest and most grovelling of motives. To have it repeated for ever after all our Monthly Meetings, that we think of nothing but of money, as I heard it was the case after Llanelltyd, when the Lord knows that I do not Iook upon this money question but in its moral bearings, as it is connected with the success of the great cause amongst us. And it is my firm conviction, after no small amount of thinking upon the matter, that if the churches persevere in this present course, the cause will be blighted, will soon wither and decay." Ymddengys i bedwar o bethau filwrio yn erbyn llwyddiant y cynllun uchod o arolygiaeth yr eglwysi.—1. Pellder yr arolygwyr yn byw oddiwrth yr eglwysi yr ymwelent â hwy, ac aneffeithioldeb eu hymweliad—dim ond unwaith yn fisol. 2. Dewisai y rhan liosocaf o'r eglwysi ryw dri o'r gweinidogion, tra na byddai ond ychydig nifer yn galw y gweinidogion a'r pregethwyr eraill. 3. Cymerai y dewisiad le bob blwyddyn, ac achosai hyny lawer o chwilfrydedd a dadleuon diangenrhaid ymysg yr aelodau. 4. Annibendod yr arian, er lleied y swm, yn dyfod i mewn. Gwneid ymofyniad yn yr eglwysi ar ddiwedd pob blwyddyn, a oeddynt yn dymuno parhau ymlaen gyda'r cynllun. Yr oedd y Parch. Daniel Evans, yr hwn oedd y llareiddiaf o'r brodyr, wedi ei anfon i'r Abermaw i ymweled â'r eglwys; ac un o'r pethau a ymddiriedwyd i'w ofal ydoedd, gwneuthur ymholiad ynghylch parhad y fugeiliaeth. Yntau wedi traddodi ei genadwri yn nghlywedigaeth yr eglwys, a