Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/503

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ofynodd y cwestiwn cyn y diwedd, "Mae y fugeiliaeth wedi bod yn eich plith y flwyddyn ddiweddaf, ac mae y Cyfarfod Misol yn dewis gwybod a ydych am barhau y flwyddyn ddyfodol fel cynt?" "Nac ydwyf fi, o'm rhan i," ebai un o'r blaenoriaid; "nid wyf fi yn gweled mo'ni yn ddim byd ond twll i wneyd poced." "Hwn a hwn," ebai Daniel Evans, gan gau ei ddwrn, "mi'ch cyfarfyddaf fi chwi yn y farn yn dyst nad gwneuthur arian sydd genym ni y gweinidogion mewn golwg, ond lles yr eglwysi." Creodd hyn gryn lawer o deimlad ar y pryd, a byddai Mr. Morgan yn arfer dweyd "mai dwy eglwys. oedd yn Ngorllewin Meirionydd yn agos i drigo, sef y Bwlch a'r Bermo." Felly syrthiodd y cynllun i'r llawr ymhen ychydig flynyddau. Dywed Mr. Morgan i frwydr fawr arall gymeryd lle yn y Gwynfryn; digwyddodd hono Mawrth 31ain, 1856. Y cofnodion am dani yn y Cof-lyfr ydyw,—"Bu ymddiddan maith ar y cynllun a gynygiwyd yn Nghyfarfodydd Misol Dolgellau a'r Abermaw, tuag at wneyd fund er cynorthwyo cynhaliaeth y weinidogaeth; ond oblegid diffyg cydwelediad, ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad." Nid ydyw yr hen dadau dewr yn digaloni dim, er cyfarfod â "duon ragluniaethau." Yn nechreu 1858, cychwynwyd y Genhadaeth Sirol, yr hon a fu yn dra llwyddianus hyd sefydliad y drefn bresenol, a adnabyddir wrth y Drysorfa Gynorthwyol, perthynol i holl siroedd y Gogledd. Y Parch. Owen Roberts, Rhiwspardyn, oedd y cyntaf a alwyd o dan y Genhadaeth Sirol. Daeth ef i faes ei lafur yn yr eglwys hono, a'r eglwysi cylchynol, ar y 23ain o fis Chwefror, 1858. Mae y cytundeb a wnaed ag ef i'w weled mewn cysylltiad a Rhiwspardyn (Gyf. I., 461).

Bu y Genhadaeth Sirol yn sefydliad pwysig yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd am ugain mlynedd lawn. Ei hamcan ydoedd cynorthwyo eglwysi gweiniaid y sir i gynal gweinidogion. Yn y flwyddyn 1862 y rhoddwyd cychwyniad