Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/504

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffurfiol a rheolaidd i'r symudiad hwn. Yr oedd nifer mawr wedi eu hychwanegu at yr eglwysi trwy y Diwygiad, a theimlai yr eglwysi yn barod ac awyddus bellach i gael rhywrai i ymgeleddu y dychweledigion. Erbyn hyn hefyd yr oedd Cronfa Athrofa y Bala wedi ei chwblhau, ac mwyach nid oedd eisiau y gyfran o arian yr eisteddleoedd a roddid yn flynyddol tuag at gynal yr Athrofa; a'r drychfeddwl cyntaf oedd, parhau y gyfran hon o arian yr eisteddleoedd, "a'i chymhwyso er sefydlu pregethwyr mewn lleoedd gweiniaid." Cerddodd y symudiad hwn ymlaen yn esmwyth a didramgwydd. Cyfarfyddodd y cyfeisteddfod a benodasid i dynu allan reolau y Genhadaeth Sirol yn y Faeldref, ac yno yr ysgrifenwyd hwy; ac wedi eu cyflwyno gerbron y Cyfarfod Misol bob yn un ac un, cawsant eu mabwysiadu yn galonog. Fel y canlyn y maent, 1. Fod y Genhadaeth hon i barhau am bum' mlynedd. 2. Na ddisgwylir i'r eglwysi sydd o dan driugain o nifer gyfranu dim tuag ati hi. 3. Disgwylir swm yn cyfateb i ddwy geiniog, o'r hyn lleiaf, oddiwrth bob eglwys arall. 4. Mae yr arian hyn i gael eu talu bob blwyddyn yn Nghyfarfodydd Misol Medi a Hydref. 5. Fod y Parch. William Davies, Llanegryn, a Mr. Evan Williams, Dyffryn, i weithredu, y naill yn ysgrifenydd, a'r llall yn drysorydd. 6. Fod i'r eglwysi a fydd yn cael cynorthwy oddiwrth y Genhadaeth, i ddyfod a'r gyfran ddyledus oddiwrthynt hwy tuag at dalu i'w gweinidogion i'r cyfeisteddfod; ac y mae y gweinidog i dderbyn ei dal trwy y cyfeisteddfod yn Nghyfarfodydd Misol Medi a Hydref bob blwyddyn. 7. Mae y swm a gyfrenir i gynorthwyo unrhyw eglwys neu daith Sabbothol i fod o 12p. i 16p. 8. Ni wrandewir ar gais unrhyw daith am gynorthwy, heb iddi wneuthur 10p., o leiaf, i gyfarfod â'r swm a addewir gan y cyfeisteddfod : ac os bydd yr amgylchiadau yn caniatau, disgwylir ychwaneg na hyny. 9. Pan y gwrandewir ar gais unrhyw daith gan y cyfeisteddfod, bydd apwyntiad y gweini-