Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/505

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dog i'w wneuthur gan y cyfeisteddfod, mewn undeb â chynrychiolwyr y daith hono, wedi cael boddlonrwydd cyffredinol yr eglwysi iddo.—Y gwaith a ddisgwylir oddiwrtho fydd, (1) Pregethu deuddeg Sabbath yn y flwyddyn yn y daith. (2) Pregethu unwaith yn y mis yn yr wythnos, ymhob un o'r capelau a berthynant i'r daith. (3) Cadw society ymhob un o'r capelau bob wythnos, oddieithr ei fod yn pregethu yno; ond os bydd tri lle yn y daith, ni ddisgwylir iddo fyned ond i ddau o honynt wythnos y Cyfarfod Misol. (4) Disgwylir iddo lafurio hyd y gall gyda'r plant, trwy egwyddori o flaen pregeth, neu mewn unrhyw ddull arall a farno efe, a chyfeillion y lle, a fyddo yn fuddiol. (5) Disgwylir adroddiad manwl oddiwrtho ymhen y flwyddyn, yn rhoddi hanes ei weithrediadau a'i lwyddiant.

Yr uchod oeddynt y rheolau cyntaf, ond gwnaed cyfnewidiadau ynddynt rai gweithiau, yn ystod yr ugain mlynedd. Am rai o'r blynyddoedd cyntaf wedi cychwyn y symudiad hwn, rhan ddyddorol o'r Cyfarfod Misol blynyddol fyddai gwrando ar y gweinidogion oeddynt yn dal cysylltiad â'r Genhadaeth Sirol, yn adrodd hanes eu gweithrediadau a'u llwyddiant. Ond ymhen amser darfyddodd yr arferiad hon, gan y teimlai rhai wrthwynebiad iddi, oddiar yr ystyriaeth fod.. gormod o wahaniaeth yn cael ei wneuthur rhwng y gweinidogion a lafurient mewn cysylltiad â'r eglwysi gweiniaid a'r gweinidogion eraill. Darfyddodd y Genhadaeth Sirol, hefyd, pan y daeth y cynllun mwy cyffredinol, sef y Drysorfa Gynorthwyol, i gymeryd ei lle. Yn Nghymdeithasfa Dolgellau, Mehefin, 1870, traddodwyd anerchiad gan y Parch. E. Morgan, ar sefyllfa yr achos yn y rhan hon o'r sir. Trefnwyd mewn Cyfarfod Misol blaenorol fod hyn i gymeryd lle. A dyma ddechreuad yr arfer bresenol, yn Nghymdeithasfa y Gogledd, i roddi adroddiad o hanes yr achos yn y sir, pan yr ymwelo y Gymdeithasfa â hi. Yn nechreu ei anerchiad y mae